1Trugaredd fy Nuw Ion a draeth
Fy ngenau ffraeth, i’w foli;
Traethaf ei wir i ni a roes,
O oes i oes heb dewi.
2“Sefydlog,” meddwn, “yn ei le,
Yw gras y ne’ ’n oes oesoedd;
Hyd fyth sicrhêi dy wir a’th farn
Yn gadarn yn y nefoedd.”
3“Gwnaethum,” medd Duw, “yngair fy ngras
A’m hethol was gyfammod;
Tyngais i Ddafydd mewn gwir lw,
Saif hwnnw byth heb ddattod.
4“Sicrhâf, (ni alwaf hyn yn ol,)
Dy had ar d’ ol heb ddiwedd;
O oes i oes ar sylfaen wir
Yr adeiledir d’ orsedd.”
5A’r nefoedd, Arglwydd, byth heb dawl
A ganant fawl dy wyrthiau,
A’th wirioneddau ’ngŵydd y byd,
Lle delo ’nghŷd dy Seintiau.
YR AIL RAN6Pwy sy gyffelyb iddo Ef
Yn uchder nef a’i llugyrn?
Pwy a gystedlir â Duw Ion
Ym mysg y meibion cedyrn?
7Yr Arglwydd sy ’n ofnadwy iawn
Yn Eglwys lawn ei Seintiau:
Chwi sydd o’i gylch yn Llys y nef,
Arswydwch Ef a’i farnau.
8Duw ’r lluoedd, pwy sy fel Tydi,
Yn rymmus Ri mewn mawredd?
Ac ar bob llaw o’th gylch yn fur
Mae gair dy bur wirionedd.
9Tydi sy ’n llywodraethu ’r môr,
Pan chwyddo ’r dyfnfor heli;
Pan dyrfo dig ei donnau llym,
Ti ’n gyflym a’u gostegi.
10Fel rhai lladdedig, yn dy nerth,
Yr Aiphtiaid certh a ddrylliaist;
A’th holl elynion yma a thraw,
Drwy rym dy law, gwasgeraist.
11Y nefoedd ydynt eiddot Ti,
A’r ddaear, hi sy ’n eiddot;
Cyflawnder a sylfeini ’r byd
A ddaeth i gyd o honot.
12Y Gogledd creaist Ti, a’r De’,
Ar ddeutu ’r ne’ mor union;
Ac yn dy Enw ’n llawen chwardd
Bryn Tabor hardd a Hermon.
13Galluog ydwyt, Arglwydd nef,
Dy fraich sy gref mewn rhyfel;
Nerthol a chadarn yw dy law,
Mae dy ddeheulaw ’n uchel.
14Cyfiawnder pur a digoll farn
Yw cartref cadarn d’ orsedd;
O flaen dy wyneb, Arglwydd da,
Mae cariad a gwirionedd.
15Gwỳn fyd sy ’n adwaen llais dy hedd,
Yngwawr dy wedd y rhodiant;
16Eu codiad yw’th gyfiawnder gwir,
Yn d’ Enw Di ’r ymlonnant.
17Tydi wyt harddwch ein nerth ni,
Trwy ’th gariad Di ’n dyrchefir;
18Sanct Israel, T’wysog in’ ŵyt Ti,
A’th darian Di ’n diffynir.
Y DRYDEDD RAN19Mewn dirgel weledigaeth gynt
A’th Sanct yr ymddiddenaist Ti; —
“Gosodais gymmorth ar un cryf,
Fy newis Wr dyrchefais I.
20“Cefais Ddafydd fy ffyddlon was,
A’m holew sant enneiniais ef;
21Braich fy ngrymmusder a’i sicrhâ,
A’i nerth fydd fy neheulaw gref.
22“Ei elyn ni all iddo drais,
Na mab y Fall ei flino mwy;
23Tarawaf ei elynion oll,
O’i flaen ar ffo ’r ymlidiaf hwy.
24“Fy ngwir a’m gras fydd gyd âg ef,
Ei gorn dyrchefir yn ei Ior;
25Ei deyrnas hyd yr afon bydd,
A’i law gosodaf yn y môr.
26“Fe lefa, ‘Ti yw ’m Tad a’m Duw,
A Chraig fy iachawdwriaeth fawr’: —
27Gwnaf Finnau yntau ’n gynfab im’
Goruwch brenhinoedd daear lawr.
28“Fy ngras a gadwaf iddo byth,
F’ addewid iddo fydd yn gref;
29Tragywydd hefyd fydd ei had,
A’i orsedd fel blynyddau ’r nef.
30“Os gadu ’m deddfau wnaiff ei blant,
Heb rodio ’n ol fy marnau gwiw,
31Os mathrant fy ngorchymyn pur,
Gan dorri cyfraith lân eu Duw,
32“Fy ngwïalen a gerydda ’i fai,
Ffrewyllaf ei anwiredd cas;
33Er hyn ni phalla iddo ’m llw,
Ni chauaf chwaith oddi wrtho ’m gras.
34“Ni thorraf fy nghyfammod gwir,
Ac ni newidiaf lw fy ngras
35A dyngais i’m sancteiddrwydd gynt,
Na dd’wedwn gelwydd wrth fy ngwas.
36“Fe bery ei had a’i heppil byth;
A’i orsedd, fel yr haul, fydd gref;
37Byth y sicrhêir ef, fel y lloer,
Ac fel tyst ffyddlon yn y nef.”
Y BEDWAREDD RAN38Ond etto dy Enneiniog Wr
Gwrthodaist Ti er hyn, O Dduw;
Ffieiddiaist, digiaist wrth dy was,
39Diddymmaist ei gyfammod gwiw.
Ei sanctaidd goron ar ei ben
Halogaist, gan ei thaflu i lawr;
40Chwalodd dy law ei gaeau i gyd,
A’i gaerau sy ’n adwyau ’n awr.
41Anrheithia ’r holl fforddolion ef,
Ac i’w gym’dogion aeth yn warth;
42Dyrchefaist Ti ddeheulaw drwch
Ei wrthwynebwŷr o bob parth.
Ei holl gaseion sydd yn awr
Yn llawen am ei iselhâd;
43Troaist a phylaist fin ei gledd,
Ni nerthaist ef yn nydd y gad.
44Diffoddaist ei ogoniant gwiw,
Dymchwelaist hyd y llawr ei sedd;
45Byrheaist flwyddi ei ieuangc oes,
Taenaist gywilydd dros ei wedd.
46O Dduw, pa hyd y sefi draw?
Pa hyd y cuddi ’th wyneb glân?
Ai byth, Oh Arglwydd Ior, ai byth?
A lysg dy ddigter fel y tân?
47Duw, cofia fyrred ydyw f’ oes!
Ai ’n ofer y gwneist ddynol ryw?
48Pwy ddïangc rhag llaw ’r angau du?
Pa ddyn heb wel’d y bedd fydd byw?
49Pa le mae llw ’th drugaredd gu
I Ddafydd, Arglwydd, llw dy ras,
Dy ras a’th hen drugaredd gynt,
Dy hen gyfammod gwir â’th was?
50O cofia warth dy weision, Ior,
A ddygais yn fy mynwes friw
Gan holl wŷr mawrion beilchion byd,
51Eu gwarth i lân Enneiniog Duw!
Ond er i gamrau traed dy was
Gael gan d’ elynion wawd a sen, —
52Bendigaid fyddo ’r Arglwydd Ior
Heb ddiwedd byth. Amen, Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.