1Yn f’ ing y gwaeddais ar Dduw Ion,
A’i glust a glybu ’m llais yn glau: —
2O gwared f’ enaid, Arglwydd Ner,
Rhag tafod twyll a gwefus gau.
3Pa beth a roddir itti ’n dâl,
Ti, dafod twyll, am flino ’r gwan?
4Cei deimlo llymion saethau cawr
Ynghŷd â marwor meryw ’n rhan.
5Gwae fi! fy mod yn byw cyhŷd
Yn anwir bebyll Mesech gas;
Gwae fi! na allwn weithian ffoi
O drigfa Cedar falch ddi‐ras.
6Bu ’m henaid yn preswylio ’n hir
Gyd â chaseion tawel hedd;
7Am heddwch pan lefarwyf fi,
Dadweiniant hwy yn ffrom eu cledd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.