Lyfr y Psalmau 116 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1-2Fy nghalon llawen yw

Fe glybu Duw fy llais;

Gostyngodd yn ei ras

Ei glust i wrando ’m cais:

Am hyn mi godaf finnau ’m llef

Holl ddyddiau f’ einioes arno Ef.

3Gofidion angau du,

Gofidion uffern ddofn,

Amgylchent f’ enaid gwan

Mewn blinder, ing ac ofn;

4O’u canol gwaeddais ar Dduw Rhi,

“Attolwg, Arglwydd, gwared fi.”

5Tosturiol yw Duw Ner,

Un cyfiawn grasol yw;

6Mewn ing a thlodi bûm,

Ac fe ’m hachubodd Duw:

7Dychwel a gorphwys, f’ enaid gwan,

Mae ’th rasol Arglwydd itti ’n rhan.

8Rhag angau cedwaist fi,

A dagrau, Arglwydd mawr;

Atteliaist yn dy ras

Fy nhraed rhag llithro i lawr:

9Am hynny rhodiaf o flaen Duw

Mewn ufudd barch yn nhir y byw.

10Mi gredais ynot, Ior,

A thraethaf air dy ras;

Mewn cystudd trwm ac ing

Y rhoed er hyn dy was

11Dywedais yn y trallod mau

Mewn ffrwst, “Pob dyn sy gelwydd gau.”

12Pa beth mewn dïolch pur

A dalaf i’m Duw Rhi,

Am roddion hael ei ras

A’i ddoniau mawr i mi?

13Cymmeraf phïol gras y nef,

A galwaf ar ei Enw Ef.

14Mi dalaf it’, fy Nuw,

Fy addunedau ’n awr,

Yngŵydd torfeydd dy bobl

A’r gynnulleidfa fawr.

15Gwerthfawr o bris, a phwysig yw

Angau ei Saint yngolwg Duw.

16Dy was yn wir, fy Nuw,

Dy ffyddlon was wyf fi;

Mab i’th law‐forwyn hoff,

Fy rhwymau drylliaist Ti.

17Aberthaf foliant llafar dôn,

A galwaf byth ar Enw ’r Ion.

18Mi dalaf it’, fy Nuw,

Fy addunedau ’n awr,

Yngŵydd torfeydd dy bobl

A’r gynnulleidfa fawr,

19O fewn cynteddau glan dy Dŷ,

Yn anwyl byrth Caersalem fry.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help