Lyfr y Psalmau 39 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Addewais gadw ’m ffordd yn bur

Rhag drwg y prysur dafod mau;

Tra byddai ’r anwir ger fy mron

Y ffrwynwn fy ngwefusau ’n glau.

2Tewais rhag geiriau da, gan fraw

Tewais yn ddistaw nos a dydd;

A’m dolur ynof a gyffrôdd

O eisiau cael ymadrodd rhydd.

3Gwresogai ’nghalon dan ei phwn,

Tra ’r oeddwn yn myfyrio ’n ddwys;

Ennynodd tân, a gwnaethum gais,

Lleferais i leihâu ei phwys.

YR AIL RAN

4O pâr im’ wybod, Arglwydd hael,

Fesur fy nyddiau gwael a gwyw,

I wybod fyrred ydyw ’r hŷd

Y byddaf yn y byd yn byw.

5Fel dyrnfedd fer y gwnaethpwyd f’ oes,

Fel dim yw ’m heinioes o flaen Duw;

Pob dyn sy wagedd, priddyn brau,

Llwyr wagedd ar y gorau yw.

6Dyn sy fel cysgod gwag heb nerth,

Mewn ofer drafferth fore a hwyr;

Fe dyrra ’n bentwr gyfoeth byd,

Ond pwy a’i casgl ynghyd, nis gŵyr.

Y DRYDEDD RAN

7Beth a ddisgwyliaf, Ion, yn awr?

Fy ngobaith mawr sydd ynot Ti:

8Dwg fi o’m holl gamweddau ’n ol;

Yn wawd i’r ffol na osod fi.

9Fy ngenau ’n gauad ac yn gaeth,

Yn fud yr aeth gan sobrwydd syn;

Distewais, ac ni soniais i —

Tydi, Tydi a wnaethost hyn.

10Fy Meddyg tirion, tyn dy bla

Oddi wrthyf, a iachâ fy nghlwyf;

Dan dy ddyrnodiau Di ’n fy lladd

Darfod o radd i radd yr wyf.

Y BEDWAREDD RAN

11A cherydd trwm pan gospit ddyn

Am bechu ’n erbyn deddf y nef,

Fel pryf dattodit yn y llwch

O bwyth i bwyth ei harddwch ef.

Pob dyn nid yw ond gwagedd ffol: —

12Gwrando fi ’n eiriol, Arglwydd nef;

Clyw fi ’n wylofain dan fy mhla,

Ac na ddistawa wrth fy llef.

Ymdeithydd, alltud gyd â Thi

Wyf fi ’r un modd a’m tadau gynt;

13Duw, arbed Di dy was sy ’n glaf,

Cyn myned ar fy olaf hynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help