Lyfr y Psalmau 69 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Achub, Arglwydd; daeth y dyfroedd

Dig hyd at fy mywyd cu;

2Mewn tom dwfn a llaid y soddais,

Yn nyfnderau ’r dyfrllif du:

Chŵydd y ffrwd a lifodd drosof;

3Blin yw ’m calon gan fy llef:

Sych yw ’m genau, palla ’m llygaid,

Tra ’rwy ’n disgwyl wrth Dduw nef.

4Gwallt fy mhen nid yw gynnifer

A’m gelynion cedyrn cas;

Mewn casineb traws heb achos

Y difethent fi dy was:

Telais yr hyn ni chymmerais: —

5Gwyddost, Ion, f’ ynfydrwydd i;

Ac ni chuddiwyd un o’m beiau

Rhag d’ olygon dwyfol Di.

6Na warthrudder neb o’m plegid

Sydd â’i obaith ynot Ti;

O Dduw Israel, na warthrudder

Neb a’th gais, o’m plegid i:

7Er dy fwyn y töwyd f’ wyneb

A’r gwaradwydd hwn ar gam;

8Dïeithr ydwyf gan fy mrodyr,

Estron wyf gan blant fy mam.

9Zel dy Dŷ a’th sanctaidd Gafell

Ysodd weithian f’ enaid i;

Ië, syrthiodd arnaf, Arglwydd,

Warthrudd dy warthruddwŷr Di:

10Pan ymprydiais mewn wylofain,

Gwawd oedd im’ a gwarthrudd mwy;

11Gwisgais lïain sach am danaf,

Mwyfwy y’m gwatworent hwy.

12Llunient yn y porth i’m herbyn

Chwedlau gau o wawd a gwarth;

Testun cân i’r meddwon oeddwn,

Gwawd a’m toai o bob parth.

13Ond er hyn fy ngweddi beunydd

Sydd yn esgyn at fy Nuw;

Tra bo ’n amser cymmeradwy,

Arglwydd Ior, fy ngweddi clyw.

YR AIL RAN

Yn ol amledd dy raslonedd,

Arglwydd, gwrandaw ar dy was,

Yngwirionedd a ffyddlondeb

Iachawdwriaeth fawr dy ras:

14Gwared f’ enaid o’r rhyferthwy,

Fel na soddwyf yn y dom;

Gwared fi o’r dwfn lifeiriant,

Ac oddi wrth fy ngelyn ffrom.

15O na ffrydied y llifeiriant

Chwyrn a chwyddawg drosof, Ior;

Ac na lyngced gwangc y tonnau

Mo’nof i ddyfnderau ’r môr:

Ac na chaued pydew ’r eigion

Safn ei ymchwydd arnaf byth: —

16Clyw fi, Arglwydd, clyw fi ’n cwynfan;

O mor dda yw ’th ras di‐lyth!

Yn ol llïaws dy drugaredd

Edrych arnaf yn dy ras;

17Ac na chuddia ’th nefol wyneb,

Ond tywynned ar dy was:

Dydd o galed ing sydd arnaf,

Brysia, brysia, gwrando fi;

18Nesâ attaf i’m gwaredu,

Rhag fy ngelyn clyw fy nghri.

19Duw, adwaenost Ti ’m gwaradwydd,

Gwyddost Ti fy ngwawd a’m gwarth;

Ger dy fron i gyd yn amlwg

Mae ’m gelynion o bob parth:

20Gwarth a phoen a dorrai ’m calon,

Tra disgwyliais yn fy mraw

A oedd neb i weini cysur; —

Safai pob cysurwr draw.

Y DRYDEDD RAN

21Bustl a roddasant yn fy mwyd,

A finegr yn fy syched tost;

22Am hyn bo ’u bwrdd yn fagl o’u blaen,

A’u tramgwydd fyddo ’u llwydd a’u bost.

23Tywylla ’u llygaid yn dy farn,

A phar i’w llwynau grynu mwy;

24Dy sorriant tywallt arnynt oll,

Cyrhaedded llid dy ddigter hwy.

25Eu preswyl fyddo byth yn wag,

(Cartrefle trais a melldith yw;)

Ac na foed neb o oes i oes

O fewn eu pebyll byth yn byw.

26Oblegid erlidiasant ef,

I’r hwn y rhoisit eisoes glwy’;

Am boen dy glwyfedigion Di

Yn ysgafn y chwedleuant hwy.

27Dod bechod at eu pechod hwy,

Na ddelont i’th urddasol fraint;

28Dilëer hwynt o lyfr y byw,

Ac na’s cyfrifer gyd â’r Saint.

Y BEDWAREDD RAN

29Minnau, fy Nuw, wyf drist a gwan,

A phoenus dan eu traha;

Ond o gaethiwed trais a cham,

Dy iechyd a’m dyrchafa.

30Ar gân y molaf Enw ’r Naf,

Mawrygaf e’ ’n wastadol;

31A gwell fydd hynny gan yr Ion

Nag eidion corniog, carnol.

32Pan welo ’r truain hyn yn iawn,

Bydd gyflawn eu llawenydd;

Os ceisiwch chwithau ’r Arglwydd Dduw,

Cewch felly fyw ’n dragywydd.

33Oblegid gwrendy Duw o’r nef

Ar gŵyn a llef y tlodion;

Ac nid dïystyr ganddo gais

Na llef na llais ei gaethion.

Y BUMMED RAN

34Y nefoedd fry a’r ddaear lawr

A’r eigion mawr a’i donnau,

A phob dim oll sydd yno ’n byw,

Moliannant Dduw y duwiau.

35Fe achub Duw ei Sïon glau,

Fe gyfyd gaerau Judah;

Meddianna ’i bobl Ef hi ’n ddi‐lyth,

Bydd iddynt byth yn drigfa.

36Ei weision Ef a’u happus hil

A’u heppil a’u meddiannant;

A’r rhai sy’n caru ’r Arglwydd Rhi,

Byth ynddi hi preswyliant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help