1Llawen‐Floeddiwch i’r Goruchaf,
Holl eithafion daear lawr;
2Gwnewch ei fawl yn ogoneddus,
Seiniwch glod ei Enw mawr:
3Cenwch iddo, “Mor ofnadwy
Yw galluog waith dy law!
Grym dy nerth a ddwg d’ elynion
Dan dy draed mewn ofn a braw.”
4Yr holl ddaear a’th addolant,
Canant it’ glodforedd gwiw;
Seiniant fawl dy sanctaidd Enw: —
5Deuwch, gwelwch waith ein Duw;
Ei weithredoedd at blant dynion
Yn ofnadwy iawn a wnaed;
6Trodd Efe y mor yn sychdir,
Trwy ’r Iorddonen aent ar draed.
Yna llawen oedd ein henaid
Yn ei allu mawr di‐lyth:
7Brenhin yw, a saif ei deyrnas
Trwy ei rymmus gryfder byth.
Trem ei lygaid sydd yn syllu
Ar genhedloedd daear gron:
Nac ymgoded yr anufudd
Mewn gwrthryfel ger ei fron.
YR AIL RAN8Bendithiwch oll ein Duw,
Genhedloedd daear las,
A pherwch glywed uchel lais
Clodforedd dwyfol ras.
9Efe sy ’n cadw ’n fyw
Ein henaid ni bob awr;
A’i dadol ofal Ef ni’s gad
Mo ’n troed i lithro i lawr.
10Ti ’n profaist, Arglwydd Dduw,
I’n puro ’n berffaith lân;
Oddi wrth ein sorod coethaist ni
Fel arian yn y tân.
11Ti ’n dygaist yn dy lid
I rwyd y gelyn ffrom;
Ac ar ein lwynau rhoddaist, Ior,
Dy faich yn wasgfa drom.
12Gosodaist ddynion gwael
I bwyso ’n pen i lawr;
Ond dygaist ni trwy ’r dwfr a’r tân
I dir o gyfoeth mawr.
Y DRYDEDD RAN13Mi ddeuaf, Ion, i’r cyntedd tau
A phoeth‐offrymmau breision;
Ac yno talaf itti ’n glau
Wir addunedau ’m calon.
14Addunai ’m gwefus itti ’n rhydd
Ynghyfyng ddydd fy nghyni;
Yn awr y talaf hynny ’n llawn,
Rhof daliad cyflawn itti.
15Aberthaf losg‐offrymmau clod,
Arogl‐darth hyrddod lawer;
Hyrddod a bychod fore a nawn,
Ac ychen llawn o frasder.
Y BEDWAREDD RAN16Chwi oll sy ’n ofni ’r Arglwydd, de’wch,
Ac ar fy ngeiriau ’n awr gwrandêwch;
Traethaf yr hyn a wnaeth fy Nuw
I’m henaid, ac mor raslawn yw.
17Mewn gweddi llefais ar Dduw nef
Yn daer, a chlybu Yntau ’m llef;
Dyrchefais innau yn fy nghân
A’m tafod fawl i’w Enw glân.
18Pe ’n hoff ar ryw anwiredd gau
Yr edrychasai ’r galon fau,
Dïystyrasai Duw fy nghais,
Ac ni wrandawsai ar fy llais.
19Ond o wefusau didwyll aeth
Fy ngweddi bur, a llwyddo wnaeth;
Cyrhaeddodd nefol orsedd gras,
Gwrandawodd Duw ar lef ei was.
20Molaf yr Arglwydd yn ddi‐daw,
Yr Hwn ni throdd fy ngweddi draw;
Ni throdd ychwaith, o’i gariad mad,
Oddi wrthyf mo ’i drugaredd rad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.