1Da yw moliannu ’n Harglwydd ni,
A chanu i Ti, ’r Goruchaf;
2Dy wirioneddau fore glas,
A’r nos dy ras, mynegaf.
3A’r nabl a’r degtant, Arglwydd Ner,
A’r delyn ber y’th folaf:
4Llawenydd im’ o’th waith a ddaw,
Yngwaith dy law ’r ymlonnaf.
5Mor fawr yw ’th weithred, Arglwydd mau!
Dwfn yw ’th feddyliau hefyd:
6I’r annoeth mae dy waith dan sel,
Dy waith ni wêl yr ynfyd.
7Pan weler yr annuwiol ddyn
Fel blod’yn hardd blagurol,
Ac fel llysieuyn irlas gwiw,
Hyn sydd i’w ddistryw bythol.
8Wyt uchel, Ion, a chryf yw ’th wg,
9Gweithredwŷr drwg gwasgerir;
Wele, d’ elynion, Arglwydd da,
D’ elynion a ddifethir.
10Er hyn, am danaf fi, fy nghorn
Fel unicorn dyrchefir;
Ag olew îr, fel olew ’th Saint,
Mwyn ennaint, y’m henneinir.
11Fy llygaid hefyd gwêl ar frys
F’ ewyllys ar fy ngelyn;
Clyw ’m clustiau f’ wyllys yn ddi‐gel
Ar bawb a ddêl i’m herbyn.
12Fel cedr a phalm ar Liban fryn,
Y Saint fel hyn cynnyddant;
13Ac ynghynteddau Tŷ ein Duw
Yn blanwŷdd byw blodeuant.
14Y Saint yn llawn o aeron gras
Mewn henaint irlas ffrwythant;
Tirfion fydd eu canghennau llawn
Ac iraidd iawn a fyddant.
15Mynegant am yr Arglwydd Dduw
Mai uniawn yw ei Fawredd,
A’i fod yn gadarn gastell im’,
Heb ynddo ddim anwiredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.