1Uchel waedd mewn ing a godais
Pan ymbiliais ar Dduw nef;
2A thywalltais fy myfyrdod
Yn fy nhrallod o’i flaen Ef:
3Pan oedd drymion fy meddyliau,
Gwyddit Ti fy nghamrau ’n llawn;
Maglau dichell a daenasant
Ar fy medr y ffordd yr awn.
4Sylw manol a gymmerais,
Chwiliais ar y ddehau law;
Ond nid oedd a’m cydnabyddai,
Llwyr giliasai nodded draw;
Ni ’s gofalai neb am f’ enaid: —
5Yna llefais ar fy Nuw,
“Ti yw ’m gobaith cryf a’m hyder,
Ti yw ’m rhan yn nhir y byw.”
6Ystyr, Arglwydd, wrth fy nghwynfan,
Gwel y truan, gwared fi
Rhag f’ erlidwŷr cas ysgeler,
Trech o lawer ŷnt na mi:
7Dwg fi ’n rhydd o’r man lle ’r ydwyf,
Fel y molwyf d’ Enw mwy;
Felly ’r cyfiawn a’m cylchynant,
Dy ras immi canant hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.