1-2Molwch yr Arglwydd Ion o’r nef,
Yn yr uchderau molwch Ef,
Holl luoedd ei angylion glân;
3Chwi gannaid haul a lloer uwch ben,
Pob seren sy ’n goleuo ’r nen,
Canmolwch Enw Duw ar gân.
4Molwch Ef, nef y nefoedd draw,
A chwithau ’r dyfroedd sydd uwch law;
5Canmolant fyth yr Arglwydd Rhi;
Pan archodd Ef, fe ’u crewyd oll,
6Drwy ’r oesoedd safant yn ddi‐goll;
Rhoes ddeddf, ac ni ’s troseddir hi.
7Molwch yr Ion o’r ddaear lawr,
Y dreigiau a’r dyfnderau mawr,
Eithafion a gwaelodion môr:
8Chwi dân a chenllysg, eira a tharth,
A gwỳnt ystormus o bob parth
Sy ’n chwythu wrth orchymyn Ior.
9Pob cribog fynydd, pob bryn glas,
Pob coedydd aeron per eu blas,
Y cedrwydd oll a’u gwyrddlas frig;
10Bwystfilod, anifeiliaid byd,
Chwithau ymlusgiaid oll ynghŷd,
Asgellog adar maes a gwig:
11Brenhinoedd oll, a’r bobl i gyd,
T’wysogion, a holl farnwŷr byd,
Pawb sy ’n preswylio daear gron;
12Chwychwi wŷr ieuangc oll yn llu,
Gwyryfon a llangcesau cu,
Henafgwŷr dwys, a llangciau llon:
13Canmolwch Arglwydd Ior y nef,
Canys ei unig Enw Ef
Sydd uchel ac anfeidrol fawr:
Mae ardderchowgrwydd ein Duw ni
Mewn urddas ac arswydol fri
Goruwch y nefoedd faith a’r llawr.
14A chorn ei bobl a gwyd Efe
Yn uchel iawn yn nheyrnas ne’,
Moliant ei brïod Saint ei Hun,
Israel ei blant a’u llwythau llawn,
Y rhai sydd atto ’n agos iawn:
Clodforwch Enw ’r Arglwydd Cun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.