Lyfr y Psalmau 4 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Gwrando pan alwyf, Arglwydd Rhi,

Duw fy nghyfiawnder ydwyt Ti;

O’m cyfyngderau rhoist fi ’n rhydd:

Yn rasol gwrando ’m gweddi brudd.

2Chwi, feibion dynion, O pa hyd

Y trowch fy mawl yn warth i gyd?

Yr hoffwch wagedd i’w fwynhâu,

Gan adu ’r gwir, a cheisio ’r gau?

3Gwybyddwch hyn, i’r Arglwydd Cun

Neillduo ’r duwiol iddo ’i Hun;

Ei drysor prïod yw mewn bri;

Pan alwyf, Duw a wrendy ’m cri.

4Ofnwch yr Ior, na phechwch mwy,

Na wawdiwch neb o’i saint yn hwy;

I siarad â’ch calonnau ewch

Y nos i’ch gwely, a distêwch.

5Aberthwch ebyrth uniawn pêr,

Offrymmau cyfiawn i Dduw Ner;

Ac yn ei Enw mawr di‐lyth

Poed gobaith eich calonnau byth.

YR AIL RAN

6Llawer a dd’wedant, “Pwy ’n ddi‐brin

A ddengys in’ ddaioni?”

Duw, dyrcha arnom lewyrch hedd,

Goleuni ’th wedd boed inni.

7Amlhêist eu hŷd a’u gwin, a llon

Y gwneist eu calon iddynt;

Ond llonnach gwneist fy mron fy hun

Na bron yr un o honynt.

8Mi rôf fy mhen i lawr mewn hedd,

Gan orwedd mewn hun dawel;

Ti ’n unig, Arglwydd, oddi fry,

A gedwi ’m tŷ ’n ddïogel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help