1Duw, buost in’ o oes i oes
Yn unig breswyl yn y byd;
O oes i oes Ti ’n unig yw
Ein trigfa gref a’n cartref clyd.
2Cyn llunio mynydd, maes, na môr,
Cyn ffurfio seiliau daear lawr,
O drag’wyddoldeb Ti wyt Dduw,
Wyt Dduw hyd drag’wyddoldeb mawr.
YR AIL RAN3Troi, O Arglwydd, ddyn i ddistryw,
Yno y troi y doeth a’r ffol;
A dywedi, “Feibion dynion,
Deuwch i’ch priddellau ’n ol.”
4Beth yw yspaid mil o flwyddi
Yn dy olwg Di, O Dduw?
Megis doe, ar ol ei ddarfod,
Megis darn o noson yw.
5Ffrwd dy lif a’u dwg hwynt ymaith,
Hunant yn yr angau du;
Er eu gweled y boreuddydd
Fel llysieuyn irlas cu:
6Oh mor hardd ei dwf y bore!
Oh mor lwys ei flod’yn llawn!
Min y bladur lem a’i meda,
Gwywa ’i degwch y prydnhawn.
7Yn dy ddigter Di ’n difethwyd,
Yn dy lid y darfu ’n grym;
8Rhoist ein hanwireddau dirgel
Yngoleuni ’th wyneb llym:
9Dydd anwadal byr ein bywyd
Gan dy ddig yn ddiddym troes;
Fel adroddiad ofer chwedlau
Treulio wnaethom flwyddi ’n hoes.
10Deg a thrugain mlwydd o ddyddiau
Yw ’n berr enioes yn y byd;
Os o gryfder cawn ddeg eraill,
Blinder yw eu nerth i gyd;
Ebrwydd y diflanna ’r yspaid,
Ymaith yr ehedwn ni: —
11Pwy a edwyn nerth dy sorriant?
Fel mae ’th ofn, mae ’th ddigter Di.
12Dysg ni, Ner, fel hyn i gyfrif
Dyddiau ’n berr‐oes yn y byd,
Fel y byddo ’n ddoeth ein calon: —
13Dychwel, Arglwydd Dduw, pa hyd?
Edifara o ran dy weision,
14Dy ras yn fore i’n henaid moes,
Fel y caffom orfoleddu
Mewn llawenydd ddyddiau ’n hoes.
15Yn ol hir flynyddau ’n cystudd,
Yspaid oes o ddrygfyd maith,
16Llawenycha ni, a dangos
I ni a’n plant d’ ogoned waith;
17Gweler coron dy brydferthwch
Arnom, Arglwydd Dduw ein Rhi;
Trefna waith ein dwylaw ynom,
Gwaith ein dwylaw trefna Di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.