1Nid ymfalchïodd, Arglwydd Rhi,
Fy nghalon i na ’m hyspryd;
Mewn pethau mawr ac uwch na ’m cais
Erioed ni rodiais funud.
2Fy enaid, er ei falchder llawn,
Yn isel iawn gostegais;
Fy enaid balch o radd i radd
Fel baban a ddiddyfnais.
3Disgwylied Israel heb lwfrhâu
Wrth Dduw a’i ddoniau grasol,
O’r amser hwn, (mae ’n werth y gwaith,)
Hyd oesoedd maith trag’wyddol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.