1Gwared, Arglwydd, f’ enaid gwirion,
Rhag y drwg a’r traws ei fryd;
2Drwg a luniant yn eu calon,
Fyth i ryfel dônt ynghŷd:
3Eu tafodau golymmasant,
Ail i golyn sarph yn gwau;
Gwenwyn marwol asp sy ’n llechu
Dan eu min a’u gwefus gau.
4Cadw fi rhag dwylaw ’r anwir,
Rhag y traws sydd am fy ngwaed;
Cais eu malais yw bachellu
Yn eu maglau cudd fy nhraed:
5Dŷd y beilchion im’ hoenynnau
Cudd ar draws fy llwybr ar daen;
Gosodasant faglau dichell
Ar fy rhodfa o fy mlaen.
6Yna gwaeddais ar yr Arglwydd,
“Duw, f’ amddiffyn ydwyt Ti;
Clyw fy llais yn llefain arnat,
Clyw fy nhostur waedd a’m cri:
7Ti yw ’m Duw, Tydi yw ’m Harglwydd,
Nerth fy iachawdwriaeth fad;
Lledaist darian gref dy nodded
Dros fy mhen yn nydd y gad.”
8Duw, na lwydda frad yr anwir,
Rhag ymchwyddo ’u balchaidd fryd;
9Geiriau ’r bradwŷr sy ’n f’ amgylchu
Fo ’n amdôi eu pennau i gyd:
10Syrthied arnynt farwor tanllyd,
Mewn ceuffosydd bônt ynghlâdd: —
11Na sicrhâer y dyn siaradus,
Drwg a helio ’r traws i’w ladd.
12Gwn y dadleu ’r Arglwydd cyfion
Ddadl y truan drosto ’n llawn;
Gwn y barn Efe ’r tylodion
Yn ei nefol Lys yn iawn:
13Yna ’r cyfiawn am dy ddedryd
A’th glodforant fyth yn llon,
A daw ’r union mewn tangnefedd
I gartrefu ger dy fron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.