1Wrth Dduw disgwyliaf yn ddi‐ball,
Ac nid wrth arall ond Efe;
I mi mewn cyflwr caeth y daw
Fy iachawdwriaeth o Dduw ne’.
2Efe fy nghraig yn unig yw,
Fy iechyd ydyw Arglwydd nef;
Efe yw f’ amddiffynfa wir,
Ni ’m mawr ysgogir ynddo Ef.
3Pa hyd y ceisiwch, yn eich brad,
Aflwydd yn erbyn gwr yn awr?
Lleddir chwi oll; a’r Ion a’ch gwna
Fel gwal neu fur ar syrthio i lawr.
4Eu hunig gyngor yw pa fodd
I’w ddwyn i lawr o’i urddas fry:
Hoffant y gau; eu gwên sy rith,
Melldith sydd yn eu calon ddu.
YR AIL RAN5Wrth Dduw disgwyliaf yn ddi‐ball,
Ac nid wrth arall ond Efe:
Gosodais, (ac ni’m siommir chwaith,)
Fy unig obaith yn Nuw ne’.
6Efe fy nghraig yn unig yw
Fy iechyd ydyw Arglwydd nef;
Efe yw ’m hamddiffynfa wir,
Ni ’m mawr ysgogir ynddo Ef.
7Yn Nuw mae’m hiachawdwriaeth fawr,
Fy urddas a’m gogoniant yw;
Fy nghadarn graig, fy noddfa gref,
Yw sanctaidd Enw ’r Arglwydd Dduw.
8Chwychwi, drigolion byd, bob awr
Gobeithiwch yn ei Enw gwiw;
Eich calon oll, heb rith, o’i flaen
Tywelltwch; noddfa ’n henaid yw.
Y DRYDEDD RAN9Geudab yw bonedd daear lawr,
Gwagedd yw gwerin wael y byd;
Ysgafnach wrth eu pwyso ’n deg
Na ’r gwegi gwaelaf ŷnt i gyd.
10Na roddwch gred ar drais na cham,
Na fyddwch ofer ynddynt mwy;
Os cewch oludoedd fwy na rhif,
Na rowch eich calon arnynt hwy.
11Unwaith llefarodd genau ’r Ion,
Dwywaith y clywais hyn o’r ne’,
Mai “Eiddo Duw yw grym a nerth,
Nad neb galluog ond Efe.”
12Tydi a bïau ’r nerth a’r grym,
A gras sy ’n eiddot, Arglwydd Rhi;
Cyfiawnder hefyd eiddot yw,
Ei waith i bawb a deli Di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.