Lyfr y Psalmau 114 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Pan gym’rodd Israel gynt ei daith

O’r Aipht anghyfiaith estron,

2Israel oedd drigfa ’i sanctaidd ras,

A Judah ’i deyrnas ffyddlon.

3Y môr, pan welodd, ciliai ’n ol,

I’w gwrthol âi ’r Iorddonen;

4Neidiai ’r mynyddoedd fel hyrdd clau,

A’r bryniau fel ŵyn llawen.

5Pa’m, Iorddonen, y troist yn ol?

Pa’m, fôr, i’th wrthol ciliaist?

6Pa’m, fynydd mawr, fel hwrdd, rhoist naid?

Pa’m, fryn, mor danbaid neidiaist?

7Ofna di, ddaear, rhag dy Dduw,

Duw Jacob yw o’r nefoedd;

8Efe dry ’r graig yn ffynnon lân,

A’r gallestr dân yn ddyfroedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help