Lyfr y Psalmau 20 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Gwrandawed Ior dy weddi brudd

Pan ddelo dydd cyfyngder;

Ac amddiffyned, yn dy gri,

Duw Jacob di bob amser.

2Rhoed itti nerth o’i Gyssegr glân,

O Sïon, burlan fynydd;

3Dy boeth‐offrymmau cofied Ion,

Poed iddynt foddlon beunydd.

4A phan ddymunech gantho rodd,

Rhoed it’ wrth fodd dy galon;

Cyflawned hefyd yn ddi‐goll

Dy fryd a’th holl gynghorion.

5Yn iachawdwriaeth Duw a’i hedd

Y cawn orfoledd lawer;

Dy weddi daer cyflawned Hwn;

I’w Enw dyrchwn faner.

6Yr Ion a wrendy yn ei ras

Ar lef ei was enneiniog;

O’r nef fe ’i gweryd ef rhag braw,

Drwy nerth ei law alluog.

7Ymddiried rhai, pan boetho ’r gad,

Mewn meirch neu fad gerbydau;

Ynghanol gwres y gad a’i swn,

Ein Duw a gofiwn ninnau.

8Ac felly hwy cwympasant oll,

A ninnau oll safasom.

9O Frenhin, gwrando ar ein cais,

A chlyw ein llais pan lefom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help