1Mawrygaf, Arglwydd, d’ Enw Di,
Codaist fi o’m trallodion;
O’m plegid i ni roddaist ddim
Llawenydd i’m gelynion.
2Arglwydd fy Nuw, i entrych nef
Y daeth fy llef hyd attat;
Ti a’m hiacheaist ar fy nghais,
Pan daer ymbiliais arnat.
3Dyrchefaist f’ enaid, Arglwydd Ner,
O dywyll fangre ’r beddrod;
Cedwaist fi ’n fyw rhag myn’d i lawr
I’r pwll cadduglawr isod.
4O cenwch, cenwch, Saint i gyd,
Bur fawl ynghyd i’r Arglwydd;
Clodforwch Ef â pheraidd gân
Wrth goffa ’i lân sancteiddrwydd.
5Ei lid ni fydd ond ennyd fer,
Mae o’i foddlonder fywyd;
Er wylo dros brydnawngwaith du,
Daw ’r bore ganu hyfryd.
YR AIL RAN6Dywedais mewn hyderus fryd,
Pan oedd fy myd yn llwyddo,
“O’m cadarn uchel fan fy nhroed
Ni syflir, doed a ddelo.”
7Gosodaist o’th ddaioni, Ner,
Fy mryn mewn cryfder grymmus;
Ond pan orchuddiaist d’ wyneb cu,
Fy enaid fu ’n helbulus.
8Ond arnat Ti, fy Nuw, fy Ner,
O’m trwch gyfyngder llefais;
Am weled gwawr drachefn o’th wedd
A phrawf o’th hedd, ymbiliais.
9Pa les sydd yn fy ngwaed, pa fudd,
A minnau ’nghudd mewn ceufedd?
A folir Di gan lwch y llawr,
Neu ’th ras a’th fawr wirionedd?
10Duw, trugarhâ wrth f’ adfyd blin,
A bydd i mi ’n gynhaliwr;
O clyw, a bydd i mi rhag cam
Yn gadarn Amddiffynwr.
Y DRYDEDD RAN11Troaist fy ngalar trwm yn gân,
O’r nos daeth allan wawr‐ddydd;
Yn lle fy sachwisg, Arglwydd da,
Ti ’m gwisgaist â llawenydd.
12Am hynny fy ngogoniant glân
Byth it’ a gân heb dewi;
A’th Enw mawr, O Dduw di‐lyth,
Ni pheidiaf byth â’i foli.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.