Lyfr y Psalmau 83 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Duw, na ddistawa ’n fud yn hwy,

Ac na fydd lonydd, Arglwydd Rhi;

2D’ elynion yn terfysgu sydd,

Gan godi eu pen yn d’ erbyn Di.

3Dichellgar gyfrinachu maent

Yn ddirgel yn ein herbyn ni;

Cynghorion eu drygionus fryd

Sy ’n erbyn dy rai dirgel Di.

4Dywedant yn eu llidiog frad,

“Deuwch yn awr, difethwn hwy;

Na byddont genedl etto byth,

Na chofier Enw Israel mwy.”

5Mewn bradol gyngrair yn gyttûn

I’th erbyn ymgynghora ’u llu;

6Pabellau Edom, Ismael drwch,

Moabiaid, a phlant Agar ddu.

7Gebal, ac Ammon, Amalec,

Philistiaid, a gwŷr Tyrus gerth;

8Ac Assur aeth yn un â hwy,

A buant i blant Lot yn nerth.

9-10Gwna hwy fel Midian yn dy lid,

Fel Sisera, fel Jabin gas;

Yn Endor, wrth ffrwd Cison hen,

Gwnaethpwyd hwy ’n dail i’r ddaear las.

11Eu rhwysgfawr bendefigion hwy

Gwna Di fel Oreb ac fel Zeeb;

Fel Zebah, fel Salmunna bônt

I gyd, ac na ’s dïango neb.

12“Meddiannwn gyfanneddau Duw,”

Oedd iaith eu brad yn erbyn nef;

13Fel olwyn gosod hwy, fy Ion,

Fel sofl o flaen y ’storom gref.

14Fel llosgi ’r goedwig yn y tân,

Fel goddaith flam ar fynydd crin,

15Erlid hwy â’th dymhestloedd chwyrn,

Dychryna hwy â’th gorwynt blin.

16Duw, llanw ’u hwyneb trwch â gwarth.

Fel y ceisiont d’ Enw mawr dilyth;

17Gwarthrudder, gwawdier, bliner hwy,

Distryw a gwarth fo ’u cyfran byth.

18Addefant felly mai Tydi,

Sy â’th Enw yn JEHOFAH mawr,

Wyt uwchaf yn uchelder nef,

Goruwch amgylchoedd daear lawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help