Lyfr y Psalmau 44 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Clywsom, Arglwydd Ior, â’n clustiau,

Traethodd in’ ein tadau ’n fwy,

Y rhyfeddol waith a wnaethost

Yn eu hen amseroedd hwy; —

2Gyrru allan y cenhedloedd,

Dwyn i mewn dy genedl wir;

Blinaist, am eu drwg, y bobloedd,

Plennaist hwythau yn y tir.

3Nid eu cledd mewn maes byddinog

A ddug iddynt hwy y wlad;

Nid eu braich ennillodd iddynt

Fuddugoliaeth yn y gad:

Dy ddeheulaw Di a’u pleidiodd,

Dy fraich gadarn oedd o’u tu,

A goleuni gwedd dy wyneb

Siriol ar dy genedl gu.

YR AIL RAN

4Ti, fy Nuw, yw ’m Pen a’m Brenhin,

Arch i Jacob wyrthiau ’th ras:

5Ynot Ti cilgwthiwn ymaith

Fyddin ein gelynion cas:

Yn dy Enw, llu ’n caseion

Dan ein traed a sathrwn ni;

6Nid fy mwa, nid fy nghleddyf

Byth a’m hachub, ond Tydi.

7Ti, ein Duw, oddi wrth y gelyn

A’n gwaredaist yn dy rym;

Ti a doaist â chywilydd

Wyneb ein caseion llym:

8Ynot Ti ’r ymffrostiwn beunydd,

Ti yw ’n bost, ein Duw di‐lyth;

Canwn am y fuddugoliaeth

Uchel glod i’th Enw byth.

Y DRYDEDD RAN

9Ti, er hyn, a’n bwriaist ymaith

I waradwydd a sarhâd;

Ac nid yw dy wyneb mwyach

Gyd â’n lluoedd yn y gad;

10Troist ni ’n ol oddi wrth y gelyn,

Rhoist ni ’n anrhaith, Ior, i’w cledd;

11Rhoist ni ’n ebyrth i’r cenhedloedd

Oll i’n bwytta yn eu gwledd.

12Gwerthaist, Ion, dy bobl heb elw,

Ac am ddim y prynwyd hwy;

Ac ni fynnit chwaith i’th olud

Ddim o’u pris gynnyddu ’n fwy.

13Rhoist ni ’n warthrudd i’n cym’dogion;

Rhoist ni ’n nod i’w gwawd a’u gwarth;

Rhoist ni ’n destun gwatwar‐gerddi

I’n caseion o bob parth.

14Ti a’n rhoddaist yn ddïareb

I’r cenhedloedd, ac yn sen;

Hwythau fyth, wrth son am danom,

Llaesant wefl, ysgydwant ben:

15-16F’ wyneb innau gan y dirmyg

Sy dan gwmmwl tew o wawd,

Am fod chwerwedd geiriau ’r gelyn

Yn gwarthruddo f’ enaid tlawd.

Y BEDWAREDD RAN

17Ond er dyfod hyn oll arnom,

Ior, ni ’th anghofiasom Di;

Ni thorrasom dy gyfammod,

Ffyddlon iddo fuom ni:

18Yn dy lwybrau di rhodiasom,

Heb i’n gwrthol gynnyg troi,

19Er ein curo ’n nhrigfa dreigiau,

Er i gysgod angau ’n toi.

20Os anghofio ’riôed a wnaethom

Enw mawr ein Harglwydd hael,

Neu ddyrchafu dwylaw ffeilsion

At eilunod gweigion gwael;

Anfad anffyddlondeb felly

21Oni chwilia Duw e’n llwyr?

Gwel Efe ’r dirgelion dyfnaf,

Calon dywyll dyn, fe ’i gŵyr.

Y BUMMED RAN

22Colli ’r ydym, Arglwydd, beunydd

Er dy fwyn ein bywyd cu;

Ac fel defaid y’n cyfrifir

Oll i laddfa ’r angau du:

23Deffro, deffro, pa’m y cysgi?

Deffro, Arglwydd Dduw di‐lyth;

Cyfod bellach i’n hamddiffyn

Ac na fwrw ni ymaith byth.

24Pa’m y cuddi d’wyneb rhagom?

Gwel ein gorthrwm gystudd mawr;

25Isel yn y llwch yw ’n henaid,

Glynu ’r ydym wrth y llawr:

26Cyfod, Arglwydd, inni ’n gymmorth,

Cudd ni rhag y gelyn cas;

Gwared ni er mwyn d’ ogoniant,

Ac er mwyn dy ryfedd ras.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help