1Clodforwn fyth Dydi, ein Duw,
Clodforwn Di tra byddom byw;
Can’s dengys rhyfedd waith dy law
Fod d’ Enw ’n agos iawn gerllaw.
2Cyhoeddaf ddedryd barn yn iawn,
’N ol derbyn y gymmanfa lawn;
3Cryn daear lawr a’i phobl i gyd; —
Myfi sy ’n dal colofnau ’r byd.
4Dywedais wrth ynfydion byd,
“Ymbwyllwch — na foed ffol eich bryd;”
Wrth y di‐dduw, “Na ddyrchwch chwi
Mwyach mo gorn eich rhwysg a’ch bri.
5“Na ddyrchwch gorn eich balchder byth,
Ac na siaradwch â gwar syth;
6Can’s nid o’r de’ na’r llewin llaith
Daw llwyddiant, nac o’r dwyrain chwaith.
7“Ond Duw sy ’n barnu ’n iawn ddi‐ball,
Gan ostwng un a chodi ’r llall;
8Canys mae phïol yn llaw Duw,
A’r gwin sy goch — gwin cadarn yw.
“Llawn cymmysg yw ei gwppan gref,
O honi y tywalltodd Ef;
Caiff holl anwiriaid daear gron
Wasgu ac yfed gwaddod hon.”
9Mynegaf finnau fyth ar gân
Glodforedd i Dduw Jacob lân;
10Torraf holl gyrn y didduw ’n chwai,
Ond codir cyrn y cyfiawn rai.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.