Lyfr y Psalmau 124 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1“Oni buasai i’r Arglwydd Rhi

Fod gyd â ni o’n mebyd,” —

Y gall, yn rhydd o’i flinder mawr,

Israel yn awr ddywedyd;

2“Oni buasai i’r Arglwydd Rhi

Fod gyd â ni ’n feunyddiol,

Pan gododd dynion creulon frad

I’n herbyn, gad elynol;

3“Yna ’n llyngcasent oll yn fyw,

Ond fel bu Duw i’w rhwystro,

Pan fflamiodd tân eu digter blin

I’n herbyn i’n distrywio.

4“Y dyfroedd aethent yn ddï‐os

Yn afon dros ein pennau,

5Ac aethai dros ein henaid blin

Ymchwydd y weilgi ’n donnau.”

6Bendigaid byth fo Enw ein Duw,

Poed dïolch i’w drugaredd,

Yn ’sglyfaeth ni roes Ef mo ’i blant

I dorri chwant eu dannedd.

7Ein henaid fel aderyn bach

O’r fagl yn iach dïangodd;

O’r fagl yn rhydd, pan dorrwyd hon,

I ffordd yn llon ehedodd.

8O Enw ’r Ion a’i rymmus law

Ein nerth a ddaw ’n oes oesoedd,

Yr Hwn a wnaeth bob peth i gyd

Sydd yn y byd a’r nefoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help