Lyfr y Psalmau 3 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Mor aml, O Arglwydd, ydyw’r gwŷr

Sydd yn drallodwŷr immi!

Gelynion fyrdd o ddydd i ddydd

I’m herbyn sydd yn codi.

2Gwatwor mae llawer f’enaid syn,

Gan ddweyd fel hyn am dano;

“Yn enw ’i Arglwydd rhag ein brad

Nid oes achubiad iddo.”

3Ond Ti, fy Nuw, (nid ofnaf ddim,)

Wyt darian im’ i’w gochel;

Dyrchefi â’th ddeheulaw gu

Fy mhen i fynu ’n uchel.

4Dyrchefais fy ngalarus lef

At Dduw i’r nef yn union;

Clybu fy llef, a rhoes fi ’n rhydd,

O’i sanctaidd fynydd Sïon.

5Gorweddais, cysgais; a’m corph gwael

Drwy fendith hael, gorphwysodd;

Deffroais yna’n iach heb nam;

Yr Arglwydd a’m cynhaliodd.

6Nid ofnaf fyrdd o wŷr na’u brad,

Na digllon gad y gelyn,

Y rhai o’m hamgylch ar bob tu

A ddônt yn llu yn f’erbyn.

7O cyfod, Arglwydd, achub fi;

Tarewaist Ti ’ngelynion

Ar garr yr ên; a thorrai ’th gledd

Ddannedd yr annuwiolion.

8Eiddo ’r Arglwydd, (Efe a’i gwnaeth,)

Yw iachawdwriaeth dynion;

Fe ddaw o’r nef, fel cawod wlith,

Dy fendith ar dy weision.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help