1O gwrando, Arglwydd, ar fy llef
A chlyw o’r nef fy ngweddi;
O nac ymguddia rhag fy nghais,
Ond clyw fy llais yn gweiddi.
2O gwrando, gwrando, Ion, o’r nef,
A chlyw fy llef yn cwynfan;
Gwrando fy nghwyn wrth orsedd gras,
A chlyw dy was yn tuchan,
3Gan lais y gelyn yn y tir
A thrais yr anwir creulon;
Arnaf anwiredd bwrw wnant,
Ac a’m casânt yn ddigllon.
4O’m mewn gofidia ’m calon glaf,
Ofn angau arnaf syrthiodd;
5Daeth arnaf ofn ac arswyd syn,
A dychryn a’m gorchuddiodd.
6O na bai, fel colommen, im’
Adenydd chwim eu ’hediad!
Oddi yma ’mhell ehedeg wnawn
I wlad lle cawn orphwysiad.
7Crwydrwn ym mhell i’r anial dir,
Ac yno ’n hir arhoswn;
8Rhag ’storm y corwynt blin a’i gur
Yn brysur y dïangwn.
YR AIL RAN9Distrywia Di hwynt, Arglwydd da,
Gwahana eu tafodau;
O fewn y ddinas creulon drais
A welais, a chynhennau.
10Y dydd a’r nos o’i chylch yr ant,
Amgylchant fur ei chaerau:
O’i mewn mae twyll a blinder blwng
Yn gwibio rhwng ei muriau.
11Celwydd a rhagrith ffynnu wnant,
Teyrnasant yn ei chanol;
Ni chilia dichell na ’i sarhâd,
Na thwyll, na brad, o’i heol.
12Nid genau gelyn na ’m cas ddyn
Mor greulon fu ’n f’ enllibio;
Haws y gallaswn oddef hwn,
Ac ymguddiaswn rhagddo:
13Ond ti, fy nghydradd, ydyw ’r gwr,
Fy fforddwr a’m cydnabod;
(Dy gyfeillgarwch gynt a wnaeth
Yn llawer gwaeth dy bechod.)
14Mewn cyd‐gyfrinach lawer pryd
Caem felus gyd‐gynghori;
A llawer Sabbath aem ynghyd
I’r Deml i gyd‐addoli.
15Doed arnynt angau chwim â’i gledd,
Yn fyw i’r bedd disgynant;
Drygioni sy yn eu calon ddu,
Ac yn eu tŷ lle trigant.
Y DRYDEDD RAN16At Dduw mewn gweddi daer
Y dyrchaf lais fy nghri,
A’m Harglwydd yn ei rym a’i ras
O’m hing a’m hachub i.
17Hwyr, fore, a hanner dydd
Gweddïaf ar fy Nuw
Yn daer a dwys; ac Yntau’n glau
Fy llais o’r nef a glyw.
18Mewn hedd o’r rhyfel blin
Gwaredodd f’ enaid cu;
’Roedd Duw a glân Angylion nef
Yn fyddin gref o’m tu.
19Ein Duw a glyw eu trwst,
Fe ’u gostwng hwynt i lawr;
Erys ein Duw yn Frenhin byth
I drag’wyddoldeb mawr.
Heb gyfnewidiau byd
Na blinder maent yn byw;
Am hynny maent ar hyd eu hoes
Heb ofn yr Arglwydd Dduw.
Y BEDWAREDD RAN20Ei law estynai ’n erbyn gwŷr
Heddychlon tu ag atto ’n byw;
Ei air a’i ammod torri wnaeth,
Gan dwyllo dyn a digio Duw.
21Llyfnach na ’menyn oedd ei fin,
Ac yn ei galon ryfel poeth;
Ei eiriau fel yr olew pêr,
Ac etto hwy ’n gleddyfau noeth.
22Bwrw dy faich ar Dduw a’i nerth,
Efe a’th gynnal di bob awr;
Ni ’s gad Efe i’r cyfiawn ddyn
Ysgogi byth na chwympo i lawr.
23I bydew distryw Duw a’u dwg: —
Gwŷr twyllgar, gwaedlyd, ni chânt fyw
Hanner eu dyddiau: ond myfi
Byth a obeithiaf yn fy Nuw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.