1Duw, trugarhâ wrth f’ enaid gwan;
Fe ’m llyngcai dyn yn llwyr o’r byd;
Drwy drais bob dydd fy mlino mae,
Gan ymladd mewn gelynol fryd.
2Fy nghas elynion sy bob dydd
Yn gwylied am fy llyngcu ’n fyw;
Llaweroedd sy ’n rhyfela ’n chwyrn
I’m herbyn, y Goruchaf Dduw.
3Yn enbyd ddydd yr ofn a’r braw,
Hyderaf, Arglwydd, ynot Ti:
4Yn Nuw y molaf air ei ras;
Nid ofnaf a wnel dyn i mi.
5Cam‐ddeall, Arglwydd, a gwyrdrôi
Fy symlaf eiriau maent bob dydd;
Eu hamcan oll a’u bwriad gau
Er drwg a brad i’m herbyn sydd.
6Ymgasglant, llechant oll ynghyd,
Fel mewn rhyw gilfach dywyll ddu,
I wylied ffyrdd a chamrau ’m traed,
Wrth ddisgwyl am fy enaid cu.
7A gânt hwy trwy eu twyll a’u brad
Ddïangc a ffoi, O Arglwydd mawr?
Na! dymchwel y cenhedloedd hyn
Ym mhoethder llym dy lid i lawr!
8Rhifaist fy symmudiadau oll,
Fy aml grwydriadau yn y byd:
Mae ’m dagrau yn dy gostrel Di;
Maent yn dy lyfr ar lawr i gyd.
YR AIL RAN9Y dydd y llefwyf arnat, Ion,
Fe ffy ’m gelynion ymaith;
Gwn hyn, am dy fod gyd â mi,
Fy Nuw, fy Rhi, fy ngobaith.
10Yn Nuw y molaf byth ei air,
Yn Nuw ei air a folaf;
11Nid ofnaf allu marwol ddyn,
Yn Nuw ei Hun hyderaf.
12Mae arnaf itti, Arglwydd Ner,
Oes, lawer gwir adduned;
Talaf it’ foliant gwir, fy Nuw,
Dy foliant yw fy nyled.
13Gwaredaist f’ enaid rhag y bedd,
A’m traed mewn hedd rhag llithro;
Fel hyn yngolau y rhai byw
Ger bron fy Nuw caf rodio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.