1“Awn, awn,
I Dŷ ein Duw yn dyrfa lawn;”
Pan glywaf hyn rwy ’n llawen iawn:
2O fewn dy hardd gynteddau mwy
Sai ’n traed, O ddinas Dduw di‐lyth,
Oddi yno byth ni syflant hwy.
3Tŷ Dduw,
Fel dinas gyssylltiedig yw,
A’i dinasyddion ynddi ’n byw:
4O fewn ei phyrth daw ’r llwythau ’n gôr,
Yn dystion gwir i Israel lân,
I seinio cân o fawl i’r Ior.
YR AIL RAN5Yn Salem ’r eistedd ar y faingc,
Sef ar orseddfaingc Dafydd,
Y rhai a wnant i’r bobloedd farn;
Sai ’n gadarn yn dragywydd.
6I Salem ceisiwch hedd di‐drai,
Poed llwydd i’r rhai a’i hoffant;
7Hedd yn ei rhagfur fo ’n amlhâu,
Ac yn ei phlasau, ffyniant.
8Er mwyn ei hoff a’i hanwyl wŷr,
Fy mrodyr a’m cyfeillion,
Y bydd fy ngweddi daer ddi‐lyth,
“Tangnefedd byth fo ’th goron.”
9Er eu mwyn hwy, bob nos a dydd,
Eu llwyddiant fydd fy ngweddi;
Er mwyn cynteddau glân fy Naf
Y ceisiaf it’ ddaioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.