1Tydi, O Dduw, yw ’m Harglwydd i;
Yn fore glas y’th geisiaf Di;
Sycheda ’m henaid am dy ras:
Hiraethu ’n ddwys y nos a’r dydd
Am danat mae fy nghalon brudd,
Mewn gwlad heb ddwfr, mewn crindir cras.
2O na chawn weled d’ allu ’n awr,
Ac edrych ar d’ ogoniant mawr,
Fel gynt, ynghafell lân dy Dŷ!
3Gwell yw na ’r bywyd im’ dy ras,
Mae ’n ganmil gwell ei werth a’i flas;
Fe ’th fola ’m genau, Arglwydd cu.
4Fel hyn y’th folaf tra bwyf byw;
Fy nwylaw yn dy Enw gwiw
Dyrchafaf tu a’th Gafell lân:
5Megis â mer a brasder hael
Digonir gennyt f’ enaid gwael;
Fy ngenau ’n llafar it’ a gân.
YR AIL RAN6Mi ’th gofiaf yn fy ngwely’r nos,
Pan guddio dunos ddaear las;
A threulio ’r tywyll oriau wnaf
Mewn dwys fyfyrdod am dy ras.
7Cefais Di ’n gymmorth immi gynt,
Buost yn nawdd a nerth i mi;
A gorfoleddaf finnau mwy
Ynghysgod dy adenydd Di.
8Fy enaid wrthyt, Ior, a lŷn;
Dy ddehau law a’m cynnal mwy:
9Ond pawb a geisiont ddistryw im’,
Yn ddwfn i’r ddaear yr ant hwy.
I’r ddaear ant trwy gwympo i lawr
10Mewn rhyfel blin gan fin y cledd;
Ymborth bwystfilod fydd eu cyrph,
Llwynogod dig a’u cânt yn wledd.
11Llonycha ’r Brenhin yn ei Dduw:—
Pob un a dwng i’r Ior di‐lyth
Fydd lawen; ond y tafod ffals
A gauir mewn gwaradwydd byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.