1Chwi ffyddlon weision Arglwydd nef
Moliennwch oll ei Enw Ef;
2Bendigaid fyth fo ’i Enw mawr:
Moliannus Enw ein Harglwydd ni,
3Caiff deilwng glod a pharch a bri
O godiad haul hyd fachlud gwawr.
4Uwch na ’r holl ddaear yw Efe,
Gogoniant Ior sy ’n uwch na ’r ne’;
5Pwy, pwy sy ’n debyg i’n Duw mawr?
Er uched yn y nef mae ’n byw,
6Ei lygaid grasol gostwng Duw
I’n gwylied ar y ddaear lawr.
7Efe sy ’n codi ’r tlawd o’r llwch,
A’r rheidus gwael o’r dommen drwch,
8I’w osod yn frenhinol Sant:
9Gwna i’r ammhlantadwy gadw tŷ,
A bod, o’i ras a’i fendith fry,
Yn llawen fam llïosog blant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.