Lyfr y Psalmau 74 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Pa’m dros byth y’n bwriaist ymaith

Yn dy sorriant, Arglwydd Cun?

Pa’m y myga’th lid yn erbyn

Praidd dy borfa lwys dy Hun?

2Cofia ’th bobl a brynaist unwaith,

Llwythau ’th etifeddiaeth wiw;

Cofia sanctaidd fynydd Sïon,

Ior, lle buost gynt yn byw.

3Gwel ni ’n anrhaith yn wastadol,

Ion, a dyrcha ’th draed ar frys;

Gwel y drygau oll a wnaethpwyd

Gan y gelyn yn dy Lys.

4Rhuo mae gelynion d’ Enw

Ynghynteddau glân dy Dŷ;

Codant eu banerau beilchion

Fel arwyddion oddi fry.

5Hynod oedd y celfydd weithiwr

Gynt a dorrai goed i lawr

Mewn dyrys‐wig, gan eu naddu

Yn gywrain Lys i’th Enw mawr.

6Ond yn awr chwilfriwia ’r gelyn

Hardd gerfiadau Sïon lân;

Ergyd bwyill a morthwylion

Sy ’n eu darnio ’n ddrylliau mân.

7Gwnaethant goed dy Gafell sanctaidd

Oll yn ulw yn y tân;

Halogasant hyd y sylfaen

Hardd breswylfa ’th Enw glân.

8“Cyd‐ddistrywiwn hwynt heb arbed,”

Meddant yn eu calon drwch;

Felly synagogau ’r Arglwydd

A losgasant oll yn llwch.

9Oh! ni’s gwelwn mo ’n harwyddion,

Nid oes etto brophwyd mwy!

Nid oes gennym neb all ddirnad

Pa hyd y pery hyn yn hwy!

10Duw, pa hyd y gwawdia ’r gelyn,

Gan warthruddo ’n hwyneb ni?

Ai dros byth y cabla ’i enau

Aflan d’ Enw sanctaidd Di?

YR AIL RAN

11Paham y tynni ’n ol dy law,

Sef dehau law dy gryfder?

O’th fynwes tyn hi allan, Ion,

I’n hachub o’n cyfyngder.

12Canys Tydi, fy nerthol Ior,

Yw ’m Brenhin o’r dechreuad;

Gweithio ’r wyt iachawdwriaeth fawr

Yn naear lawr yn wastad.

13Ti, Arglwydd, trwy y cryfder tau,

Y môr yn ddau a holltaist;

A phennau dreigiau trwch di‐rif

Ar donnau ’r llif a ddrylliaist.

14Ti ddrylliaist ben Lefiathan,

Fe drengodd dan y dyrnod;

I bobl yr anial ar y traeth

Y rhoist e’ ’n lluniaeth parod.

15Holltaist y graig, a’r dwfr o’i bron

Ffynhonnai ’n afon loywlif;

Sychaist afonydd cryfion certh,

Dyspyddaist nerth eu cenllif.

16Ti pïau ’r nos, Ti pïau ’r dydd,

Ti yw eu Trefnydd hefyd;

Yr haul a barottoaist Ti,

A’r pur oleuni hyfryd.

17Ti, â therfynau dydd ac awr,

Y byd cwmpasfawr cylchaist;

Tydi a ffurfiaist hinon haf,

Ac oerder gauaf lluniaist.

Y DRYDEDD RAN

18O cofia hyn, ein Harglwydd cu,

I’r gelyn gablu ’n chwerw;

Cofia i’r bobloedd ynfyd ffol

Ddifenwi ’th ddwyfol Enw.

19O na ddod enaid addfwyn pur

Dy durtur i’w chaseion;

Na ad yn anghof, Arglwydd da,

Byth mo gymmanfa ’r tlodion.

20O edrych ar gyfammod gwir

Dy enau geirwir, Arglwydd;

Mae tywyll fannau ’r byd yn llawn

O ffauau creulawn celwydd.

21Na throer yn ol y rheidus gwan

A’i wyneb dan waradwydd;

Y truan tlawd molianned byth

Dy Enw dilyth dedwydd.

22Cyfod, O Dduw ein clod a’n mawl,

A dadleu ’th hawl dragywydd;

A chofia ’r gwawd a deifl y ffol

I’th wyneb grasol beunydd.

23Na ad yn anghof lais dy gas,

Na bloedd dy ddiras elyn;

Eu dadwrdd dringo i fynu bydd

O ddydd i ddydd i’th erbyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help