1Ymddyrched Duw, ein Harglwydd Ner,
Gwasgarer ei gaseion;
Fföed ei wrthwynebwŷr oll
O’i flaen, a’i holl elynion.
2Fel y diflanna ’r mwg yn llwyr,
Fel y tawdd cwyr wrth eirias,
Felly o flaen yr Arglwydd Ion
Difethir dynion diras.
3Ger bron eu Duw yn llawen iawn
Y bydd y cyfiawn beunydd;
Llawn o orfoledd fyddant hwy,
A hyfryd trwy lawenydd.
4Cyd‐genwch fawl i Arglwydd nef,
Ei Enw Ef canmolwch;
Yr Ion trwy glod a moliant llawn
Yn uchel iawn dyrchefwch.
Marchogaeth ar y nef a wna,
A’i Enw ’n JAH trag’wyddol;
Yn orfoleddus cenwch glod,
Ger bron ei wyddfod nefol.
5Tad yr amddifaid ydyw Duw,
Eu nodded yw ’n feunyddiol;
Barnwr y gweddwon ydyw fry
Yn llys ei Dŷ sancteiddiol.
6Yr unig rhydd mewn teulu ’n glau,
Fe ddryllia rwymau ’r caethion;
Ond cartref cras mewn diffaeth dir
A gaiff yr anwir ddynion.
YR AIL RAN7Pan aethost, Ior, o flaen dy bobl,
Pan gerddaist trwy ’r anialwch cras,
8Diferai ’r nef ddefnynnau i lawr,
A chrynai calon daear las.
Defnynai ’r nef a chrynai ’r fro,
O flaen yr Arglwydd Dduw, pan ddaeth;
Ac yntau Sinai gribog falch
O flaen Duw Israel crynu wnaeth.
9Ar d’ etifeddiaeth bwriaist, Ion,
Gawodydd o rasusol wlaw;
Gwrteithiaist hi pan ydoedd flin
Wrth deithio ’r crasdir yma a thraw.
10Dy sanctaidd gynnulleidfa Di
A drigai yn yr anial fan;
Ac yn eu tlodi, Arglwydd da,
Yn hael darperaist ar eu rhan.
11Yr Ior ei Hun a roes y gair,
Gair cennadwri gras y nef;
A mintai o bregethwŷr ffraeth
Yn llïaws a’i cyhoeddent ef.
12Byddinog dywysogion dewr
Ar ffrwst a ffoisant ar bob tu;
A’r rhai a drigent yn y tai,
Rhannasant yspail fras eu llu.
13Er gorwedd rhwng y ffyrnau gynt,
Byddwch fel c’lommen wych ei lliw,
A’i hadain yn ariannaidd oll,
A rhuddaur ar eu hesgyll gwiw.
14Gwasgarodd nerthol law yr Ion
Ynddi frenhinoedd dewr cyn hyn;
’Roedd hi ’r pryd hwnnw ’n ddisglaer wen
Fel ôd ar goppa Salmon fryn.
Y DRYDEDD RAN15Fel mynydd Basan, uchel drum,
Yw Sïon, sanctaidd fynydd Duw;
Uchel a chribog yw ei ben,
Fel cribog fynydd Basan yw.
16Paham, fynyddoedd cribog byd,
Y llemmwch? hwn yw mynydd Duw;
Ei ddewis breswyl Ef yw hwn,
Ei drigfa byth a’i gartref yw.
17Cerbydau Duw ŷnt ugain mil,
Miloedd o Sereiph pur o dân;
Ac Yntau ’n trigo yn eu plith,
Megis ynghafell Sinai lân.
Y BEDWAREDD RAN18Dyrchefaist i’r uchelder draw,
Caethgludaist gaethglud yn dy law,
Derbyniaist roddion hael i ddyn,
I’r cyndyn, roddion rif y gwlith,
Fel y preswyliai yn eu plith
Wynebpryd grasol Duw ei Hun.
19Ein Duw, bendigaid byth a fydd,
Ein baich a ddwg o ddydd i ddydd,
Ein Harglwydd a’n Hiachawdwr yw;
20Ein Harglwydd sydd Waredwr cu,
A dïangfâu rhag angau du
Sy ’n eiddo ’n grasol Arglwydd Dduw.
Y BUMMED RAN21Ein Duw mewn gwg o’i nefoedd wen
A glwyfa ben ei elyn,
A choppa walltog falch y gwr
A fo ’n gamweddwr cyndyn.
22“Fy mhobl fy Hun drachefn,” medd Ner,
“O bellder Basan dygaf;
Ac o ddyfnderau ’r môr yn glau
Mi eilwaith a’u dychwelaf.”
23Fel hyn fe drochir gwadnau ’th draed
Yn rhuddgoch waed d’ elynion;
Tafodau ’th gŵn ei lyfu cânt,
O hono lleibiant ddigon.
Y CHWECHED RAN24Gwelsant dy ffyrdd, O Argwydd mau,
Dy fynediadau grasol,
Dy rodiad glwys, fy Mrenhin fry,
O fewn dy Dŷ sancteiddiol.
25O’r blaen, cantorion aent yn llu,
Ar ol, ’roedd llu ’r cerddorion;
Ac yn eu mysg, llangcesau glân
Yn canu ’r dympan fwyndon.
26Chwychwi o ffynnon Israel lân,
Dyrchefwch gân bereiddlwys
O fawl i’r Ion, ein Harglwydd da,
Ynghynnulleidfa ’r Eglwys.
27Benjamin fychan yno sydd
Yn llywydd, er yn fychan;
A thywysogion Judah gu,
Ynghyd â’u llu sancteiddlân.
T’wysogion Naphtali ger bron,
A Zabulon sydd yno: —
28Fe archodd Duw ei rym i ti,
Dy rymmus Ri a’th nertho.
Gwna ’th waith yn gadarn ynom ni;
Dechreuaist Ti e’ ’n raslon:
29Er mwyn dy Deml yn Salem deg
Cei anrheg gan d’wysogion.
30Cerydda dyrfa ’r uchel gyrn,
Gwrdd‐deirw cedyrn creulon;
Cerydda loi y bobl yn glau,
A’u hymffrostiadau beilchion.
Dônt felly ’n isel yn y man,
Gan ddwyn o’u harian itti: —
Os gwell fydd ganddynt ryfel llym,
Ti ’n gyflym a’u gwasgeri.
31O’r Aipht daw pendefigion lu,
Ethiopia ddu, daw hithau;
Lledant ar frys at Dduw, mewn braw,
Eu dwylaw mewn ymbiliau.
Y SEITHFED RAN32Cenwch i Dduw, deyrnasoedd byd,
Canmolwch Ef, y bobl i gyd;
33Ior yw, yn eistedd ar y nef;
Ei eang nef drag’wyddol yw:
O hon ei lef anfonodd Duw,
Ei rymmus, nerthol, uchel lef.
34O moeswch, moeswch nerth i Dduw,
Goruchel dros ei Israel yw,
A’i rym sydd yn wybrennau ’r ser:
35Mae yn ei Dŷ ’n arswydus iawn;
Duw Israel rhydd in’ gymmorth llawn;
Bendigaid byth fo ’r Arglwydd Ner.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.