Lyfr y Psalmau 146 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Fy enaid, mawl dy Dduw di‐lyth,

Yr Arglwydd byth a folwyf;

2Molaf yr Arglwydd yn fy myw,

Canaf i’m Duw tra fyddwyf.

3Ar dywysogion na rowch gred,

Na chaffed dyn eich hyder;

Disgwyl am iachawdwriaeth trwy

Eu gallu hwy sydd ofer.

4Can’s pob rhyw ddyn, y doeth a’r ffol,

I’w lwch yn ol a ddychwel;

A dyna ’r dydd y syrth i gyd

Ei holl feddylfryd uchel.

5Gwyn fyd y dyn bo Duw yn borth,

Duw Iago ’n gymmorth iddo,

A’i hyder yn yr Arglwydd Ion,

Ac ynddo fo ’n gobeithio.

6Y nef, a’r ddaear lawr, a’r môr,

A’u lluoedd, Ior a’u ffurfiodd;

Drwy oesoedd trag’wyddoldeb hir

Y ceidw ’r gwir a dyngodd.

7I’r gorthrymmedig rhydd farn wir,

A bara i’r newynog;

Yr Arglwydd o’u cadwynau sydd

Yn rhoddi ’n rhydd yr euog.

8A’i lewyrch cannaid ein Duw Ior

Sydd yn goleuo ’r deillion;

Yr isel cyfyd ein Duw ni,

Efe sy ’n hoffi ’r cyfion.

9Y dïeithr a’r ymddifaid gwael

Gan ei law hael cynhelir,

A chwyn a cham y gweddwon gwel;

Dadymchwel ffordd yr anwir.

10Yr Arglwydd a deyrnasa byth,

Dy Dduw tragyfyth, Sïon;

O oes i oes mewn grym a hedd

Y saif ei sedd a’i goron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help