1“Yn llwyr ddïachos lawer pryd
O’m hi’engetid hyd yr awrhon,”
Y dichon Israel dd’weyd yn awr,
“Ce’s flinder mawr gan ddynion.
2“Mynych o’m mebyd hyd yn awr
Hwynt‐hwy a’m mawr flinasant,
Heb achos, ac heb arbed dim, —
Ond etto ni ’m gorfuant.
3“Arddodd yr arddwŷr ar ei hyd
Fy nghefn i gyd yn rhychau,
Gan estyn, yn eu malais llawn,
Yn hirion iawn eu cwysau.
4“Er hyn mae’r Arglwydd yn y nef,
A’i farnau Ef sy gyfion
Torrodd Efe, fel edau wan,
Reffynnau ’r annuwiolion.”
YR AIL RAN5Bydd gwawd a gwarth oddi wrth yr Ior,
A gwatwor i’n gelynion;
O flaen ei rym i’w gwrthol ant
Y rhai gasânt ein Sïon.
6Byddant fel glaswellt brigsyth cryf
Ar ben y tŷ fo ’n tyfu,
A dry o las ei liw yn wỳn,
Gan wywo cyn ei dynnu.
7Yr hwn yn addfed byth ni ddaw
I lenwi llaw ’r medelwr;
Ac ni ddaw ’n ysgub, ffrwythlon faich,
I lenwi braich y rhwymwr.
8Ni ddywed undyn wrth y rhai ’n,
Wrth fyn’d ar ddamwain heibio,
“O’r nef boed i chwi fendith wiw,
A bendith Dduw a’ch llwyddo.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.