1Mor hyfryd, Oh mor hawddgar yw
Dy sanctaidd bebyll Di, fy Nuw,
Tywysog lluoedd nef a llawr!
2Mae ar fy nghnawd a’m calon flys
A hiraeth am fy Nuw a’i Lys;
Gwaeddaf am danat, Arglwydd mawr.
3Fe gafodd adar mân y fro,
Y wennol a’r aderyn to,
Nythod i’w cywion, — d’ Allor Di:
Duw’r lluoedd wyt, fy Ior, fy Nuw;
4Gwỳn fyd y rhai ’n dy Dŷ sy ’n byw,
Byth y’th foliannant, Arglwydd Rhi.
5Gwyn fyd y sawl ’r wyt Ti o’i du,
A’th ffyrdd a’th lwybrau ganddo ’n gu,
6Er rhodio dyffryn Baca draw;
Yn fân ffynhonnau cloddiant ef,
Gan ddisgwyl am gawodau ’r nef,
A’r llynnau llon a leinw ’r gwlaw.
7Fel hyn o nerth i nerth yr ant;
Ymddangos ger bron Duw a gânt
Ar ben y daith yn Sïon fry:
8Duw’r lluoedd, clyw o Lys y nef,
Duw Jacob, erglyw Di fy llef,
Rho rym i deithio tu a’th Dŷ.
YR AIL RAN9Duw ’n tarian, edrych yn dy ras,
Gwel wyneb dy Enneiniog Was: —
Mae ’n well un dydd yn Nhŷ fy Nuw
Na mil mewn arall fan i fyw.
10Gwell gennyf gadw drws Tŷ Dduw,
Bod wrth ei riniog byth yn byw,
Na thrigo o fewn neuaddau clyd
A moethus annuwiolion byd.
11Haul o ddisgleirdeb ydyw Duw,
A tharian o rymmusder yw:
Yn helaeth o drysorau ’r ne’
Gras a gogoniant rhydd Efe.
Nid ettyl ddim daioni chwaith
Oddi wrth y rhai fo ’n bur eu gwaith:
12Y sawl a roddo ’i gred a’i fryd
Arnat, Dduw ’r lluoedd, gwŷn ei fyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.