1Cofia, O Arglwydd, yn dy ras,
Dy ffyddlon was, dy Ddafydd;
Ei amryw bryder cofia Di,
Oedd yn ei boeni beunydd.
2Y modd y d’wedodd wrth Dduw Dad,
A’i lw ’n sicrhâd i’w eiriau;
A’r modd y gwnaeth adduned wiw
I rymmus Dduw ei dadau: —
3“I’m pabell nac i’m tŷ nid af,
Ni ddringaf ar fy ngwely,
4Ni chaiff fy llygaid hûn i’w cau,
Ni chaiff f’ amrantau gysgu;
5“Hyd oni chaffwy ’n gyntaf le
I’m Duw yn gartre’ i drigo,
I Arglwydd Jacob, rymmus Ri,
Fo ’n addas i breswylio.”
6Ni glywsom, wedi chwilio ’n hir,
Yn Ephrath dir am dani;
Ym maes y coed, mewn cyflwr gwael,
Y cawsom afael arni.
YR AIL RAN7O deuwch, awn i’w bebyll Ef,
A llafar oslef canwn;
Ger bron ei droedfaingc fore a nawn
Yn ufudd iawn ymgrymmwn.
8A chyfod Dithau, Arglwydd Rhi,
I’th babell i orphwyso;
Trig byth yn hon âg arch dy nerth,
Cei foliant prydferth yno.
9Cyfiawnder pur, ac nid ei rith,
Fo ’n wisgoedd i’th Offeiriaid;
A’th Saint fo ’n orfoleddus iawn,
O gysur llawn fo ’u henaid.
Y DRYDEDD RAN10Er mwyn dy lw i’th ffyddlon was
Dafydd, o’th ras trugarog,
Edrych, O Arglwydd, â gwedd gu,
Dan wenu, ar d’ Enneiniog.
11I Ddafydd gynt y tyngodd Duw,
Mae’n ffyddlon i’w gyflawni, —
“O ffrwyth dy gorph gosodaf Fi
Ar d’ orsedd i reoli;
12“Os ceidw ’th blant yr addysg mau
A’m cyfammodau beunydd,
Ar d’ orsedd gadarn plant eu plant
Eisteddant yn dragywydd.”
Y BEDWAREDD RAN13Chwennychodd Duw byrth Sïon lân
Yn ddewis drigfan iddo;
14A hoffodd ei chynteddau glwys
I orphwys a phreswylio.
15“Fy mendith nefol,” meddai Naf,
“A roddaf ar ei bara;
A chaiff ei thlodion gweiniaid gwael
O luniaeth hael eu gwala.
16“Mi wisgaf eu hoffeiriaid oll
A’m hiechyd, digoll fwyniant;
A’i Saint fy moliant yn ddi‐lyth
Dan ganu byth a ganant.
17“A pharaf fod, (ac felly bydd,)
Corn Dafydd yn flagurog;
Darperais lamp na ddiffydd ddim
Yn llewyrch i’m Henneiniog.”
18A’i holl elynion o bob parth
Gwisgaf a gwarth yn amdo;
Ac ar ei ben bydd, ger fy mron,
Ei goron yn blaguro.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.