1O Molwch Enw ’r Arglwydd Ion;
Ei weision, molwch fyth eich Rhi,
2Chwychwi sy ’n sefyll yn nhŷ Dduw,
Ynglân gynteddau ’n Harglwydd ni.
3Canmolwch fyth yr Arglwydd Ion,
Da, grasol, a daionus yw;
Mae ’n hyfryd canu clod ei ras,
O seiniwch fawl i Enw Duw.
4Yr Ior detholodd Israel lân
Yn brïodoriaeth iddo ’i Hun.
5Mi wn mai mawr ac uchel iawn
Goruwch y duwiau yw ’n Duw Cun.
6A fynnodd yn uchelder nef
A wnaeth deheulaw ’r Arglwydd Ior,
Ar wyneb eang daear las,
Ac yn nyfnderoedd eigion môr.
7Mae ’n codi tarth o eithaf byd,
Y mellt a wnaeth ynghŷd â’r gwlaw;
Ac o drysorfa ’r nefoedd fry
Mae ’n dwyn y corwỳnt yn ei law.
8Tarawodd gynblant gwlad yr Aipht,
Yn ddyn a milyn, yn ei rym;
9Ar Pharaoh a’i holl weision balch
Anfonodd ei arwyddion llym.
10Tarawodd lawer cenedl ffrom,
A lladdodd lawer brenhin cryf;
11Ca’dd Og a Sehon deimlo ’i gledd,
A Chanaan a’i brenhinoedd hyf.
12Eu tir i’w Israel lân ei Hun
Yn brïod etifeddiaeth rhoes;
13Dy Enw, O Dduw, a bery byth,
Dy goffa a wnawn o oes i oes.
YR AIL RAN14Yr Arglwydd barnu ’n iawn a wna,
Yn iawn fe farna ’r eiddo;
A rhag i’w weision deimlo ’i fâr
Fe fydd edifar gantho.
15Delwau ’r bobloedd ŷnt aur o’r tân,
Ac arian wedi ei gerfiaw;
Dych’myga ’u tyb yr Arglwydd Ion
Yn waith eiddilon ddwylaw.
16Eu genau sydd o gostus fri,
Er hynny ni lefarant;
Ac fyth y tremia ’u llygaid sỳn,
Ond dim er hyn ni’s gwelant.
17Ni chlyw eu clustiau floedd na chri,
A’u genau ni anadlant:
18Tebyg i’r rhai’n yw pawb a’u gwna,
Ac ynddynt a ’mddiriedant.
19Tŷ Israel, molwch ein Duw Ion,
Tŷ Aaron, Ef bendigwch;
20Tŷ Lefi, a’r rhai a’i hofnwch Ef
Arglwydd y nef clodforwch.
21Bendithier byth yr Arglwydd Ner
O Sïon ber ei hanthem;
Canmolwch Ef o ddydd i ddydd,
Ei drigfa sydd yn Salem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.