1Fy Nuw, ’rwy ’n llefain arnat Ti,
O clyw fy nghri galarus;
Brysia pan lefwyf, bydd yn blaid
I’m henaid gwan hiraethus.
2O doed fy ngweddi attat, Ner,
Fel arogl per yn mygu;
Ac fel prydnhawnol offrwm Ion
Fy nwylaw fo ’n dyrchafu.
3O cadw gref gadwraeth, Ior,
Ar gyfer dôr fy ngenau;
4Na ostwng chwaith at ddrwg na cham
Fy nghalon na ’m gwefusau.
Nad elwyf gyd â gweithwŷr gau
Byth at fwriadau creulon;
Ac n’ad im’ fwytta na mwynhâu
Na chyffwrdd â’u dainteithion.
5Curer fi gan y cyfiawn mad,
Bydd hynny ’n gariad attaf,
Ac olew fydd na ’s tyr fy mhen; —
Ond rhag eu sen gweddïaf.
6Pan gwympo ’u barnwŷr hwynt i lawr
Ar galed greiglawr garwaf,
Fy ngeiriau wrthynt fyddant fwyn,
A chlywant hwy ’n felusaf.
7Ein hesgyrn sydd yn wael eu gwedd
Ar fin y bedd ar wasgar,
Fel un yn hollti crinion wŷdd
Yn danwŷdd ar y ddaear.
8Mae ’m llygaid a’m holl obaith i,
Duw, arnat Ti heb ddiwedd;
Na ad, O Dduw, fy enaid gwael,
Moes iddo gael ymgeledd.
9O cadw ’m henaid rhag y rhwyd
A’r fagl a daenwyd immi,
Sef magl y drwg weithredwŷr cas,
Na syrthio ’th was ddim iddi.
10Y gwŷr di‐dduw ynghŷd bob un
I’w rhwyd eu hun fo ’n cwympo;
A minnau ’n gweled, ac yn rhwydd
Yn myn’d heb dramgwydd heibio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.