1-2O’r dyfnderau gwaeddais arnat,
Doed hyd attat, Ion, fy llais;
Dwg fi ’n rhydd o’u canol allan,
Clyw fi ’n cwynfan, gwrando ’m cais:
3Ar anwiredd, Ion, os creffi,
Sefyll mwy ni ’s gallwn ni;
4Ond maddeuant sy bob amser
Fel y’th ofner gyd â Thi.
5Wrth dy rad drugaredd anwyl
’Rwyf yn disgwyl nos a dydd;
Geiriau gwir dy rasol gyfraith
Immi ’n gadarn obaith sydd:
6Er mor fawr disgwyliad beunydd
Gwylwŷr am y wawrddydd wiw,
F’ enaid sydd mewn mwy disgwyliad
Am addewid rad ei Dduw.
7Disgwyl, Israel, wrth yr Arglwydd,
Er na ’s delo ’n ebrwydd iawn;
Wrth ei ddisgwyl rhydd o’r diwedd
It’ ei rad drugaredd lawn:
Mae ’n gyfoethog o drugaredd,
Nid oes diwedd ar ei ras;
8Gweryd Israel â’i ymgeledd
Oddi wrth rwym eu camwedd cas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.