Lyfr y Psalmau 50 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Duw ’r duwiau, y Jehofah mawr,

O’r nef yn awr llefarodd;

O godiad hyd fachludiad gwawr,

Y byd cwmpasfawr galwodd.

2O Sïon, gem perffeithrwydd gwiw,

Y mae ein Duw ’n disgleirio;

3Ein Duw ar frys a ddaw, a ddaw,

A’n Duw ni thaw pan ddelo.

O’i flaen y mellt yn dân sy’n gwau,

O’i gylch, taranau ’n rhuo:

4Mae ’n galw ’r nef a’r ddaear lawr

I farnu ’n awr yr eiddo.

5“Cesglwch,” medd Duw, “fy Saint ynghyd,

Dônt yma i gyd yn barod;

Eiddof trwy aberth ydynt hwy,

Ac eiddof trwy gyfammod.”

6Ac yna bloeddia ’r nef i gyd

Mai iawn fydd dedryd Dofydd;

Daear a nef a dystia ’n un

Mai Duw ei Hun sy Farnydd.

YR AIL RAN

7“Erglywch, fy mhobl, llefaraf Fi,

Israel, yn Dyst yn d’ erbyn di;

Dy Dduw dy hun wyf Fi sy ’n awr

I’th farnu ger bron nef a llawr.

8“Nid am d’ offrymmau poeth di‐ri’

Na’th ebyrth y’th geryddaf di;

Eu mwg hwy fyth sy ’n esgyn fry

O’m blaen oddi ar allorau ’m Tŷ.

9“Bustach na bwch ni cheisiaf mwy

O’th dŷ na ’th gail; ni’s mynnaf hwy;

10-11Oblegid eiddof Fi dy Dduw

Yw pob anifail ag sy ’n fyw;

“Pob bwystfil a lochesa ’r wig,

Pob milyn maes, pob gwylltfil dig

Ar fryniau fil; a gwn i gyd

Holl adar holl fynyddoedd byd.

12“Pe delai newyn arnaf Fi,

Ni chwynwn wrth dy ddrysau di;

Y ddaear gron sydd olud im’,

I ti ni raid im’ ofyn dim.

13“Ai cig eidionau sy ar fy mwrdd?

Ai ’m dïod yw gwaed bwch neu hwrdd?

14Na! tâl im’ d’ addunedau gwiw,

Ac offrwm glod i’r uchel Dduw.

15“Arnaf mewn trallod galw ’n glau,

Gwaredaf di o’r blinder tau;

A thithau ’n rhydd o’th gyni llym

A ogoneddi ’m gras a’m grym.”

Y DRYDEDD RAN

16Ond wrth yr anwir medd Duw Rhi,

“Beth sydd i ti â’m geiriau?

Ai ti sy ’n traethu ’m cyfraith lân

A’m deddf â’th aflan enau?

17“Casâu ’r wyt ti yr addysg fau,

A sathru ’m geiriau ’n wastad;

18Gyd â’r yspeilwŷr mae dy ran,

A’th gyfran gyd â’r anllad.

19“Gollyngaist ti dy safn yn rhydd

I dwyll bob dydd, a thrawsedd;

A’th dafod gau, yn llawn o frad,

Sy ’n gwau cordeddiad ffalsedd.

20“Eisteddaist ti mewn pwyll i lawr,

A’th frawd a fawr athrodaist;

I enw ’th frawd y rhoddaist nam,

A mab dy fam enllibiaist.

21“Ti wnaethost hyn mewn dichell gau

Yn hyf, a minnau ’n tewi;

A thybiaist tithau ’m bod mewn ffug

Yn ail a thebyg itti.

“Ond argyhoeddaf Fi di ’n llym

Mewn chwerwedd grym ceryddon,

A’th holl anwiredd rhôf ar daen

Mewn trefn o flaen d’ olygon.

22“Clywch hyn, y rhai anghofiwch Dduw,

Gan dybied nad yw ’n gweled;

Cofiwch a gwyliwch, rhag i Mi

Eich rhwygo ’n ddiymwared.

23“Yr hwn a abertho foliant glân

A’m gogonedda ’n iawnaf:

I’r sawl a drefno ’i ffordd yn dda,

Fy iechyd a ddangosaf.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help