1Gostwng, Ior, dy glust i’m gwrando,
Llais y tlawd a’r truan clyw;
2Cadw f’ enaid, — sanctaidd ydwyf,
Achub Di dy was, fy Nuw:
Yn dy ras yr wy ’n ymddiried,
3Arglwydd, wrthyf trugarhâ;
Arnat Ti ’rwy ’n llefain beunydd,
4Tithau f’ enaid llawenhâ.
Attat y dyrchafaf f’ enaid,
5Duw maddeugar ydwyt Ti;
Mawr i bawb yw ’th ras haelionus
A alwant arnat, Arglwydd Rhi:
6Gwel fi ’n daer o flaen d’ orseddfa,
Derbyn f’ ymbil, clyw fy llef;
7Gwaeddaf arnat yn fy nghyni,
Clyw fy llais o Lys y nef.
YR AIL RAN8Nid oes neb ym mhlith y duwiau,
Sy ’n gyffelyb i’n Duw ni;
Nid oes weithred, Ior galluog,
Debyg i’th weithredoedd Di.
9Daw y bobloedd oll a wnaethost,
Holl genhedloedd daear gron,
Gogoneddant fawredd d’ Enw,
Ac addolant ger dy fron.
10Ti wyt fawr, a’th waith sy ryfedd,
Ti yn unig, Ior, wyt Dduw!
11Dysg im’ ffordd dy lân wirionedd,
Ynddi rhodiaf tra bwyf byw:
Una ’m bron i ofni ’th Enw;
12Molaf Di, fy Nuw di‐lyth;
A’m holl galon y’th glodforaf,
Gogoneddaf d’ Enw byth.
Y DRYDEDD RAN13Mawr yw ’th ras a’th hael drugaredd,
Arglwydd Ior, i’m henaid i;
O ddyfnderoedd uffern obry,
F’ yspryd a waredaist Ti:
14Beilchion traws sy ’n llu ’n ymgodi,
Ceisiant ddïeneidio ’th was;
Ti ni ’s rhônt o flaen eu llygaid,
15Er dy gariad mawr a’th ras.
Llawn ffyddlondeb ac amynedd
Wyt, a helaeth iawn o ras;
16Achub fab dy wasanaeth‐ferch,
Dyro ’th rasol nerth i’th was:
17Gwna im’ arwydd er daioni,
Gwna yngŵydd fy ngelyn llym,
Fel y cuddio gwarth ei wyneb,
Am mai Ti yw ’m nerth a’m grym.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.