1Duw y duwiau sy ’n teyrnasu,
Gwisgodd ardderchowgrwydd gwiw;
Ymwregysodd â grymmusder,
Cryfder ydyw gwisg ein Duw:
Haleluiah!
Ior sy ’n Frenhin nef a llawr.
Daear gron yn ansigledig
Ar ei sylfaen gref a roed;
2Ond cadarnach yw d’ orseddfaingc,
Parottoaist hon eriôed:
Haleluiah!
Brenhin trag’wyddoldeb wyt.
3Ymddyrchafodd llanw ’r llifddwr
Trwch, ewynfrig, Arglwydd Ior;
Gan ryferthwy chwyrn y rhuodd
Trwst llifeiriaint tonnau ’r môr:
Haleluiah!
Brenhin eigion môr wyt Ti.
4Cryfach na rhyferthwy ’r dyfrllif
Yw Duw Ior yn uchder nef;
Trech na chedyrn donnau ’r dyfnder
Ydyw ei gadernid Ef:
Haleluiah!
Brenhin eigion môr yw Duw.
5Sicrach yw tystiolaeth d’ enau
Na ’r byd crwn, na ’r nefoedd fry;
Glân sancteiddrwydd, Ior, a weddai
Byth i Gafell lân dy Dŷ:
Haleluiah!
Ti yw Brenhin Salem lân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.