1Duw, nid i ni, O nid i ni,
Ond boed i Ti ’r gogonedd;
Er mwyn dy ras, er mwyn dy wir,
Boed byth i Ti ’r anrhydedd.
2Pa’m y gofynai ’r bobl i ni,
“Pa le mae ’ch Duw chwi weithian?”
3Mae yn y nef: o’i waith y daw
A fynno ’i law ei Hunan.
4Eu delwau hwy sydd aur o’r tân,
Ac arian wedi ei gerfiaw;
Dych’myga ’u tyb yr Arglwydd Ion
Yn waith eiddilon ddwylaw.
5Eu genau sydd o gostus fri,
Er hynny ni lefarant;
Ac fyth y tremia ’u llygaid syn,
Ond dim er hyn ni welant.
6Ni chlyw eu clustiau floedd na chri,
A’u ffroenau ni aroglant;
7A dwylaw lluniaidd iddynt sy,
Er hynny dim ni theimlant.
Eu gwddf yn ddilais fud a wnaed,
Ni cherdd eu traed o danynt: —
8Ail iddynt ydyw pawb a’u gwnant,
Ac a ’mddiriedant ynddynt.
YR AIL RAN9O Israel, yn yr Arglwydd Ner
Dod di dy hyder cyfan;
Hyd byth ymddiried yn dy Dduw; —
Eu cymmorth yw a’u tarian.
10Tŷ Aaron, yn yr Arglwydd Ner
Dod di dy hyder cyfan;
Hyd byth ymddiried yn dy Dduw; —
Eu cymmorth yw a’u tarian.
11Chwychwi sy ’n ofni ’r Arglwydd Ner,
Rhowch ynddo ’ch hyder cyfan,
A chredwch yn yr Arglwydd Dduw,
Eu cymmorth yw a’u tarian.
Y DRYDEDD RAN12Cofiodd yr Ion â’i fendith hael
Dŷ Israel a thŷ Aaron;
13A’i hofnant Ef, bendithia ’r rhai ’n
Yn fychain ac yn fawrion.
14Yr Arglwydd a’ch cynnydda ’n fil,
Chwychwi a’ch heppil hygar;
15Bendigaid ydych ganddo Ef
A wnaeth y nef a’r ddaear.
16Y nefoedd fawr a’i lluoedd gwiw
Sy ’n eiddo ’r Duw a’i creodd;
Ac wyneb llydan daear gron
Yn rhan i ddynion rhoddodd.
17Y meirw mud â’u tafod mwy
Ni folant hwy yr Arglwydd,
Na ’r rhai a droir gan angau trwch
I drigfa llwch distawrwydd.
18Ond ni sydd etto ’n awr yn fyw,
Yr Arglwydd Dduw bendithiwn;
A llafar lef o hyn hyd byth
Ein Duw di‐lyth a folwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.