1Rhowch lafar fawl i Dduw ein nerth,
I Arglwydd Israel cenwch glod;
2Dygwch y dympan, moeswch psalm,
Y nabl a’r delyn fwyna ’n bod.
3Udgenwch ar y newydd loer,
Ar ddiwrnod uchel wyl ein Duw;
4Mae hyn i Israel lân yn ddeddf,
Defodol i Dduw Jacob yw.
5Rhoes hyn yn dyst yn Joseph gynt,
Pan fu trwy dir yr Aipht ei daith,
Lle clywais lawer blwyddyn drom
Aflafar ac estronol iaith.
6“Oddi wrth ei ddwys a’i orthrwm faich
Ei ysgwydd gynt a dynnais I;
Rhyddheais ef oddi wrth y ffwrn: —
7Gelwaist mewn ing — gwaredais di.
“Yn nirgel drigfa ’r daran groch
Gwrandewais di o dan dy bla;
Profais dy galon gyndyn gau
Wrth ddyfroedd cynnen Meribah.
YR AIL RAN8“Fy mhobl mi dystiaf itti ’n awr,
O chaf wrandawiad: Israel, clyw; —
9Duw arall na foed ynot byth,
Na phlyg dy lin i estron dduw.
10“Myfi, Myfi yw ’th Arglwydd Ior,
Myfi yw dy Jehofah di,
Yr Hwn a’th ddug o gaethdra ’r Aipht:
Lleda dy safn, a llanwaf hi. —
11“Hon oedd f’ addewid gynt i’m pobl,
I Israel fy nhystiolaeth gref;
Ond hwy am gwrthodasant I,
Ac ni wrandawent ar fy llef.
12“Myfinnau a’u gollyngais hwynt
Wrth chwant eu calon gau a’u gwŷn;
Ymado wnaethant hwythau ’n llwyr
Yn ol eu cyngor cas eu hun.
13“Oh na wrandawsent ar fy llef!
Oh na rodiasent yn fy ffyrdd!
14Maeddaswn eu gelynion oll,
Tarawswn hwynt o’u blaen yn fyrdd.
15“Caseion y Goruchaf Ior
Plygasent iddo ’u glin ddi lyth;
A’u hamser hwythau yn eu llwydd
Heb ddiwedd a barhasai byth.
16“A brasder goreu ’r gwenith gwỳn
Yn ddiwall y bwydasai hwy;
Ac hefyd â’r pereiddiaf fêl
O’r graig y’th ddiwallaswn mwy.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.