1O Gwared f’ enaid, Arglwydd mad,
Rhag creulon frad y gelyn;
Amddiffyn fi â’th nerthog law
Rhag pawb a ddaw i’m herbyn.
2Gwared fi rhag drygionus wŷr,
Rhag gormes gweithwŷr trawsder,
Rhag dynion digllon creulon fryd,
Gwŷr gwaedlyd ac ysgeler.
3Rhoddasant gynllwyn o fy mlaen,
A magl ar daen yn barod:
Duw, daeth i’m herbyn gedyrn rai,
Nid ar fy mai na’m pechod.
4Ymbarottoant hwy yn chwim,
A mi heb ddim anwiredd:
Deffro i’m cymmorth, Arglwydd mad,
A gwel eu brad a’u trawsedd.
YR AIL RAN5Deffro, Dduw ’r lluoedd mawr i gyd,
Holl bobloedd byd gofwya;
Na thrugarhâ wrth neb a wnel
Anwiredd dirgel draha.
6Dychwelyd gyd â’r hwyr a wnant,
Amgylchant ddinas f’ annedd,
Ac ysgyrnygant, un a’r llall,
Fel cwn y Fall, eu dannedd.
7Bytheiriant â’u geneuau ’n hyf,
A’u geiriau ’n gleddyf caled;
Annogant felly ’r naill y llall,
“Pwy,” meddant, “all ein clywed?”
8Tydi, er hyn, O Arglwydd da,
Eu geiriau a watwori;
Ac am yr holl genhedloedd gau,
Ti ’n wawdus a’u dirmygi.
9O herwydd nerth yr Arglwydd Naf,
Disgwyliaf beunydd wrtho;
Fy nerth yw cadarn Arglwydd nef,
Fy noddfa gref sydd ynddo.
10Fy ngrasol Dduw a helpa ’i was,
Rhagflaena ’i ras fi ’n gofyn;
A Duw a wna im’ wel’d ar frys
F’ ewyllys ar fy ngelyn.
Y DRYDEDD RAN11Na ladd hwy ’n hollol am eu bai;
Fy mhobl anghofiai ’n fuan:
Gwasgar hwy oll ar led yn fyw
Drwy ’r byd, O Dduw ein tarian.
12Am bechod eu gwefusau gau
Hwy yn eu geiriau dalier,
Eu celwydd a’u melldithion tost,
Ac yn eu bost a’u balchder.
13Oh difa, difa hwynt â’th fâr:
Gwyped y ddaear, Arglwydd,
Dy fod yn Jacob lân i gyd
Hyd eitha ’r byd yn Llywydd.
14Dychwelyd gyd â’r hwyr a wnant,
Amgylchant ddinas f’ annedd;
Ac ysgyrnygant, un a’r llall,
Fel cwn y Fall, eu dannedd.
15Ar hyd y dydd chwilenna wnant,
A chrwydant am ysglyfaeth;
A’u llwyr ddigonedd oni chânt,
Grwgnachant am eu lluniaeth.
Y BEDWAREDD RAN16Mi ganaf am dy nerth,
Anfeidrol rym dy ras;
Moliannaf dy drugaredd gu,
Cyn gwawrio ’r bore glas.
Ti fuost, Arglwydd Ior,
Yn rymmus blaid o’m tu;
Anfonaist im’ o’r nef dy nawdd
Yn nydd cyfyngder du.
17I Ti, fy Nuw, fy nerth,
Y canaf tra bwyf byw;
Tydi yw ’m tŵr a’m castell cryf,
Fy ngrasol Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.