Lyfr y Psalmau 144 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Bendigaid fyddo ’m Harglwydd Ner,

Fy nghryfder i’r ymladdfa;

Mae ’n dysgu ’m llaw i drin y cledd,

A’m bysedd i ryfela.

2Fy nefol obaith a’m nawdd yw,

Fy nhŵr, fy Nuw, f’ ymgeledd;

Darostwng Ef fy mhobl i mi,

A chyfyd fri fy ngorsedd.

3Pa beth yw dyn, O Arglwydd Ior,

It’ roi ’r fath ragor arno?

Beth yw mab dyn, pan wneit yn awr

Gyfrif mor fawr o hono?

4Fel gwagedd gwael yw pob dyn byw,

A diddym yw ei ddiwrnod;

Ei ddiwedd buan ar fyr dro

Sy fel pan gilio cysgod.

YR AIL RAN

5Gostwng dy nefoedd, Ion, yn awr,

Disgyn i lawr i farnu;

A chyffwrdd â mynyddoedd byd

Nes bônt i gyd yn mygu.

6Gwasgar d’ elynion oll yn glau,

Gyr fellt yn saethau digllon;

Ergydia ’th saethau yn y tir

I ddifa ’r anwir ddynion.

7Anfon o’r nefoedd fry dy law,

Dy gref ddeheulaw gyfion,

A gwared fi o’r llif â’th ras,

O ddwylaw cas plant estron.

8Y rhai y traetha ’u genau gau

Wageddus eiriau ofer;

Y rhai y mae eu dehau law

Yn wag ddeheulaw ffalsder.

9Canaf gân newydd i Dduw Naf,

Ar fy mhereiddiaf dannau,

Ar y ber nabl a’r degtant mwyn,

A nefol swyn ei seiniau.

10Fe weryd Ef frenhinoedd byd

A nerth ei iechyd nefol;

A’i was, sef Dafydd, rhag y bedd

A min y cledd niweidiol.

Y DRYDEDD RAN

11Duw, gwared fi â’th rymmus law

O ddwylaw meibion estron;

Eu genau sydd o rith yn llawn,

A’u dehau ddwylaw ’n ffeilsion.

12Fe dyf ein meibion felly ’n llon

Fel planwŷdd tirfion irlas;

A’n merched fel congl‐feini nadd

Sy ’n harddu neuadd palas:

13Ein celloedd fydd yn llawn o faeth

A phob rhyw luniaeth beunydd;

A’n praidd cyfebron yn dwyn mil

A milfil yn ein meusydd.

14Bydd hefyd felly ’n hychen ni

Yn gryfion i lafurio;

A’n ’strydoedd heb na chlwyf na phla,

Na gwaeddi na chaethiwo.

15Mae dedwydd wynfyd oddi fry

I’r rhai mae felly arnynt;

Ond mwy o wynfyd yw a llwydd

Bod Duw yn Arglwydd iddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help