Lyfr y Psalmau 57 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Trugaredd, Arglwydd, dod i’th was,

Moes iddo ’th ras, pan alwo;

Oblegid, Arglwydd, ynot Ti

Mae f’ enaid i ’n gobeithio.

Ynghysgod dy adenydd Di,

Fy Arglwydd Rhi, gobeithiaf;

Danynt, nes pasio ’r aflwydd hyn,

Heb ddychryn yr ymguddiaf.

2Mi alwaf ar yr Uchel Dduw,

Ac Yntau clyw fy ngalwad;

Er mwyn cwblhâu â mi ei air,

I’m gweddi pair attebiad.

YR AIL RAN

3Rhag gwarth yr hwn a’m llyngcai ’n fyw

Y denfyn Duw i’m gwared;

Ei wir drugaredd enfyn Ef

I’w was o’r nef i wared.

4Fy ofnog enaid sydd yn bod

Ynghanol llewod creulon;

’Rwy ’n gorwedd gyd â dynion byd,

Sy â’u geiriau i gyd yn boethion.

Mae ffyrnig ddannedd y rhai hyn

Yn waywffyn a saethau;

A chleddyf treiddiol, llym ei fin,

Yw iaith eu blin dafodau.

5Ymddyrcha ’n uchel, Arglwydd Ner,

Uwchlaw uchelder nefoedd;

A bydded dy ogoniant ar

Y ddaear a’i hamgylchoedd.

6Crymmwyd fy enaid: — rhwyd i’m traed,

Wrth geisio ’m gwaed, a wnaethant;

Cloddiasant bydew immi ’n ffol,

I’w ganol hwy syrthiasant.

Y DRYDEDD RAN

7Parod yw ’nghalon, parod iawn

Yw ’nghalon lawn a helaeth;

Deffro, fy hoff ogoniant gwiw,

A chân i Dduw ganmoliaeth.

8Deffro, fy nabl, a’r delyn fwyn,

Deffrôed holl swyn eich seiniau;

Deffroaf finnau ’n fore iawn

I ddeffro dawn eich tannau.

9O Dduw, clodforaf Di ’n ddi‐goll

Ym mysg yr holl genhedloedd;

Canmolaf Di â llawen fryd

Ger bron y byd a’i bobloedd.

10Mawr yw ’th drugaredd, Arglwydd da,

Hyd eitha ’r wiwnef lwyswen;

A’th bur wirionedd uwch y byd

A gyrraedd hyd yr wybren.

11Ymddyrcha ’n uchel, Arglwydd Ner,

Uwchlaw uchelder nefoedd,

A bydded dy ogoniant ar

Y ddaear a’i hamgylchoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help