1De’wch, canwn i Dduw Ner
Gerddoriaeth beraidd iawn;
Yn nerth ein hiechyd, Craig ein grym,
Yn hyfryd llawenhâwn.
2O deuwn ger ei fron
A dïolch pur a chân:
Ennyned psalmau llafar glod
Ein hanthem ber yn dân.
3Yr Arglwydd sy Dduw mawr,
Uwchlaw y duwiau i gyd;
Mae’n Frenhin mawr, ac yn ei law
4Mae gorddyfnderau’r byd.
Uchelder bryniau ’r byd
I’n Duw sy ’n eiddo gwir;
5Fe pïau ’r Mor — ei waith Ef yw,
A gwaith ei law yw ’r Tir.
6O de’wch, addolwn Ef,
Ymgrymmwn oll i lawr;
Gostyngwn ar ein gliniau ’n glau
Ger bron ein Lluniwr mawr.
7Efe yw ’n Harglwydd Dduw,
Ein Bugail yw o’i ras,
A ninnau ’n bobl ei ffyddlon law
A phraidd ei borfa las.
YR AIL RANHeddyw, os gwrandêwch ei eiriau, —
8“Na chaledwch eich calonnau,
Fel yn anial dir eich teithiad,
Yn y gynnen, ddydd y temtiad;
9“Pan y’m temtiwyd gan eich tadau,
Ac y gwelsant waith fy ngwyrthiau;
Hir fu ’r amser y’m profasant,
Yn fy ngras a’m barn y’m gwelsant.
10“Ymrysonais ddeugain mlynedd
A’r genhedlaeth hon a’i thrawsedd;
Mynych y dywedais wrthynt
Mai pobl wyrgam galon oeddynt.
“Rhodio yn fy ffyrdd ni ’s mynnent,
Llwybrau heddwch nid adwaenent:
11Tyngais Innau mewn digllondra,
Na chaent ddyfod i’m gorphwysfa.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.