Lyfr y Psalmau 19 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Y nefoedd sydd yn traethu ’n wiw

Glodforedd mawr ogoniant Duw,

A thraetha ’r wybren fawr ei waith;

2Pob nos i nos, pob dydd i ddydd

Eu haddysg yn cyhoeddi sydd

Am wyrthiau ’r greadigaeth faith.

3Ond nid oes iddynt sain nac iaith,

Ni chlyw y glust mo ’u geiriau chwaith,

Mae ’n ddistaw eu lleferydd coeth;

4Gwyddys er hyn eu geiriau i gyd,

A’u llinyn, hyd eithafoedd byd,

Mae ’n eglur eu hymadrodd doeth.

Ynddynt mae pabell haul y nef;

5Ail i brïod‐fab ydyw ef,

Yn d’od o ’stafell dwyrain draw;

Mae ’n llawen uwch y ddaear laith

I redeg hynt ei yrfa faith,

Fel cawr, heb bryder, ofn, na braw.

6Cychwyn o eitha’r nef a wna,

Hyd eitha’r nef ei gerbyd â,

O’r dwyrain i’r gorllewin draw;

Ac yna ’n ol i’r dwyrain trŷ,

Gan hael wasgaru oddi fry

Ei wres a’i lewyrch ar bob llaw.

YR AIL RAN

7Cyfraith Dduw, mae hon yn berffaith,

Yn troi ’r enaid gŵyr yn ol;

Ei dystiolaeth sy ddïogel,

Hi wna ’n ddoeth y gwirion ffol:

8Deddfau ’r Arglwydd, union ydynt,

Llawenhânt y galon brudd;

Pur yw gair ei lân orchymyn,

Yn goleuo ’r llygad cudd.

9Ofn ein Duw sy bur ddilygredd,

Mae ’n dragywydd yn parhâu;

Ei holl farnau sy wirionedd,

Cyfiawn ydynt heb ddim gau:

10Mwy dymunol na ’r aur puraf

Ydynt im’, a golud mwy;

Nid yw ’r mel na ’i ddiliau peraidd

Ddim mor felus a hwynt‐hwy.

11Ynddynt hwy dy was rhybuddir;

Mae o’u cadw wobrwy mawr.

12Pwy a ddeall rif ei feiau,

Faint ei gamwedd brwnt bob awr?

Golch fi, Ner, oddi wrth fy mhechod

Dirgel;

13attal byth dy was

Rhag llywodraeth beiau rhyfyg;

Dwg fi dan arglwyddiaeth gras.

Felly glân a pherffaith fyddaf

Oddi wrth bob anwiredd mawr:

14Poed dderbyniol gennyt, Arglwydd,

Eiriau fy ngwefusau ’n awr;

Poed myfyrdod f’ yspryd hefyd

Gymmeradwy ger dy fron;

Ti yw’m Craig a’m Prynwr nefol,

Arglwydd, ar y ddaear hon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help