Lyfr y Psalmau 145 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Ti, fy Mhrenhin, a ddyrchafaf,

Duw, bendigaf d’ Enw byth;

2Beunydd y bendithiaf d’ Enw

Yn fy nibaid fawl di‐lyth:

3Mawr yw Duw a chanmoladwy,

Anchwiliadwy yw ei rym;

4Oes wrth oes ei waith a folant

Traethant ei gadernid llym.

5Ardderchowgrwydd hardd dy fawredd

A’th waith rhyfedd molaf mwy;

6Soniaf am d’ arswydus fawredd,

Nerth dy waith a draethant hwy;

7Cofiant amledd dy ddaioni

A’th gyfiawnder pur i’th was;

8Ymarhôus a thirion ydwyt,

Llawn trugaredd, llawn o ras.

9Da i bawb a haelfryd ydwyt,

Gras yw coron hardd dy waith;

10Gogoneddir dy ddoethineb

Gan dy holl weithredoedd maith:

Ond dy Saint yn uwch a’th folant

11Am d’ ogoniant, Frenhin nef;

Nerth galluog dy frenhiniaeth

Canant â soniarus lef.

12Hyn a bair i feibion dynion

Wybod ei gadernid Ef,

Ardderchowgrwydd a gogoniant

Ei deyrnasiad yn y nef:

13Teyrnas fythol yw dy deyrnas,

Byth y pery dros y byd;

14Duw sy ’n cynnal pawb a syrthiant,

Cyfyd hwynt i fynu i gyd.

15Llygaid pawb sy ’n disgwyl wrthyt,

Gennyt cânt eu bwyd mewn pryd;

16Ti agori ’th law haelfrydig,

Gan eu porthi hwynt i gyd:

A’th ewyllys da digonir

Pob peth byw ar dir a môr;

17Yn dy ffyrdd i gyd wyt gyfiawn,

Yn dy waith wyt uniawn, Ior.

18Duw sy ’n agos at a’i hofnant,

Gan wir alw ar ei ras;

19Gwna ’u hewyllys, clyw eu llefain,

Gweryd hwynt o’u cyni cas:

20Ceidw ’r Arglwydd bawb a’u carant:

Ond yr anwir, collir hwy;

21Molaf fyth ei sanctaidd Enw,

A phob cnawd a’i molant mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help