Lyfr y Psalmau 17 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Clyw, Arglwydd, mor gyfiawn yw f’ochain,

Ystyria fy llefain a’m llais;

A gwrando fy nhaer erfyniadau,

O ddidwyll wefusau daw ’nghais;

2A deued fy marn o’th breswylfod

A’m dedryd o’th wyddfod i’th was;

Edryched dy lygaid yn gyfiawn,

Ar gwynfan yr uniawn, o’th ras.

3Dwfn eigion fy nghalon a brofaist,

Y nos yr ymwelaist â’m gwaith;

Anwiredd a phechod a geisiaist,

Ni chefaist, pan chwiliaist, ychwaith:

4Gweithredoedd plant dynion pan welais,

Bwriedais y geiriwn yn gall;

Ymgedwais rhag llwybrau ’r yspeilydd,

Wrth d’ eiriau Di beunydd heb wall.

YR AIL RAN

5O cynnal fi ’n cerdded dy lwybrau,

Rhag llithro llesg gamrau fy nhraed:

6Pan elwais, gwrandawyd fy nghwynion,

A’m hachub yn union a wnaed:

Ior, ystyr wrth lais f’ ymadroddion,

A’m taerion erfynion, O clyw;

Gostynged dy glust at fy llefain,

A gwrando fi ’n ochain, fy Nuw.

7Dod im’ dy ragorol drugaredd,

I’m gwaeledd mor ryfedd yw’th ras!

I bawb wyt Achubydd a nodded,

A’th gred, fel i minnau dy was:

8O cudd rhag fy ngelyn fi ’n wastad,

Fel canwyll dy lygad, â’th law;

Fy enaid i ’mguddio ’n dragywydd

Dan gysgod d’ adenydd y daw.

Y DRYDEDD RAN

9Duw, cadw fi rhag y drygionus

Sydd im’ mor orthrymmus a thrwch,

A rhag y rhai ’n gas a’m hamgylchant;

Os cânt, hwy a’m llethant i’r llwch:

10Cauasant o amgylch gan frasder,

Llefarant mewn balchder a gwawd;

11Ein llwybrau amgylchant o bobtu,

O fwriad i lethu ’r tylawd.

Eu llygaid ar gil gosodasant

I lethu ’m gogoniant i lawr;

12Eu dull sy fel llew a ddyrwygai

Ysglyfaeth a garai yn fawr,

Ac megis llew ieuangc yn gwyliaw

Yn ddirgel i larpiaw ei wledd;

13Duw, achub ei flaen ef, ’rwy ’n ofnus,

A chwymp ef yn glwyfus â’th gledd.

Y BEDWAREDD RAN

14Duw, cadw fi rhag yr annuwiol,

Dy gleddyf anfeidrol ei fin;

Ond beth ydyw dynion i’w hofni?

Dy gadarn law Di sy ’n eu trin;

Nid ydynt ond dynion daearol,

A’u heinioes yn farwol i fod,

A moethau ’r byd hwn yw eu cyfran

Eu hamcan a’u rhan îs y rhod.

O’th drysor cuddiedig Ti beunydd

A lenwaist â chynnydd eu chwant;

Llawn ydynt o feibion a llwyddiant,

A’u gweddill gadawant i’w plant.

15Hyn, Arglwydd, yw ’m gweddi bob amser,

Cael gwel’d mewn cyfiawnder dy wedd;

A’th ddelw digonir fi ’n ddïau

Pan ddeffr’wyf o barthau y bedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help