1O Gwrando, Arglwydd, ar fy llef,
A chlyw o’r nef fi ’n ymbil;
Rhag ofn y gelyn creulon fryd
O cadw ’m bywyd eiddil.
2Cuddia Di f’ enaid, Arglwydd Ior,
Rhag cyngor gwŷr ysgeler;
Rhag brad a therfysg creulon wŷr
Gweithredwŷr anghyfiawnder.
3Hogant fel cledd eu tafod gau;
A saeth eu geiriau chwerwon
4Ergydiant yn ddisymmwth iawn
At fron yr uniawn galon.
5Drygioni ’n hyf heb ofn a wnant,
Chwedleuant am wneud niwed,
Gan ddirgel osod maglau ’r Fall,
“Pwy,” meddant, “all eu gweled?”
6Am anwireddau chwilio wnant,
Gorphenant ddyfal chwilio;
I’w calon trais a rhith sy ’n nod,
A dwfn yw ceudod honno.
YR AIL RAN7Ond saetha Duw hwynt oll am’ hyn;
Ei sydyn saeth a’u clwyfa;
8Eu tafod arnynt pan y dêl,
Pob un a’u gwel a gilia.
9A phawb, am hyn, o ddynol ryw
A ofnant Dduw a’i Enw;
A gwaith ei law mynegi wnant,
A doeth‐ystyriant hwnnw.
10Yn Nuw y cyfiawn llawen fydd,
Ac arno rhydd ei obaith;
A hyfryd fydd gorfoledd bron
Yr uniawn calon berffaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.