Lyfr y Psalmau 5 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Duw, deall y myfyrfod mau

A gwrando eiriau ’m gweddi;

2Fy Nuw a’m Brenhin, clyw fy nghri,

Sef arnat Ti ’rwy ’n gwaeddi.

3Yn fore, Arglwydd, ar fy nghais,

Y clywi ’m llais o’m trallod;

Yn fore dyrchaf, wrth fy rhaid,

Fy llef a’m llygaid uchod.

4O herwydd nid wyt, Arglwydd Rhi,

Yn Dduw sy ’n hoffi gwagedd;

Ac ni phreswylia gyd â Thi

Ddrygioni nac anwiredd.

5Ni saif ynfydion ger dy fron,

Yngŵydd d’ olygon sanctaidd;

Caseaist bob gweithredwŷr gau,

Eu gwaith a’u geiriau ffiaidd.

6Difethi bawb yn llwyr o’th ŵydd

A draethant gelwydd gwarthus;

Yr Arglwydd a ffieiddia fâr

Y gwaedlyd a’r twyllodrus.

YR AIL RAN

7Minnau a ddeuaf i’th dŷ, Ner,

Yn amlder dy drugaredd;

Addolaf tu a’th sanctaidd lys,

Gan ofni ’th ddilys fawredd.

8Arwain fi ’n gyfiawn ddydd a nos,

O achos fy nghaseion;

A gwna dy ffordd o’m blaen yn rhwydd

Ac uniawn, Arglwydd cyfion.

9Pob gair o’u genau ’n ffals a drŷ

Eu ceudod sy bechodau;

Eu ceg sy fedd agored gau,

Gwenhieithiant â’u tafodau.

11Ond pawb a gredont ynot Ti,

Eu Duw a’u Rhi maddeugar,

Mewn llais gorfoledd pur di‐lyth

Y canant byth yn llafar.

Estynaist drostynt, megis llen,

Dy law a’th aden noddawl;

A charant hwythau d’ Enw cu

Gan orfoleddu ’n ddidawl.

12Ti, Arglwydd, o’th drugaredd wir,

A lwyr fendithi ’r cyfion;

A’th garedigrwydd nos a dydd,

Fel tarian, fydd ei goron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help